Y Gwir Anrhydeddus David Lloyd George,
canys yr oedd ef bellach yn Llywydd y Bwrdd Masnach ac, yn rhinwedd y ffaith ei fod yn Weinidog y Goron, yn aelod o'r Cyfrin Gyngor. Y mae'n debyg mai tua'r adeg yma y dechreuodd y brwdfrydedd mawr o blaid Mr. Lloyd George godi yng Nghymru. Yr oedd ganddo ei ddilynwyr brwd o'r blaen, ond yr oedd ganddo ei feirniaid hefyd ymhlith ei blaid ei hun. Agwedd braidd yn feirniadol oedd eiddo Meirion, er enghraifft, tuag ato mewn adeg y gallaf fi ei chofio, ac yr oedd llawer o'r Rhyddfrydwyr mwyaf hen ffasiwn yn parhau i edrych arno fel gŵr oedd braidd yn rhy eithafol ac yn rhy finiog ei dafod. Bellach, fel y dywedwyd, yr oedd yn peidio a bod yn arweinydd Cymreig yn ystyr lawnaf y gair, ond yn y cyfnod yma serch hynny y dechreuodd ddyfod yn eilun mwyafrif y genedl hefyd. Ni all neb a'i gwelodd anghofio brwdfrydedd chwarelwyr Arfon yng Nghaernarfon dydd yr etholiad yn 1906, ac yr oedd y brwdfrydedd tanbaid hwnnw yn arwydd o'r hyn oedd yn ymledu dros Gymru oll.
Syndod i bawb bron oedd i Mr. Lloyd George gael ei ddewis yn Llywydd Bwrdd Masnach; ychydig oedd wedi meddwl fod ganddo y cymwysterau angenrheidiol at swydd ddiramant a diantur o'r fath. Eithr yn ei achos ef, fel yn achos Joseph Chamberlain ac un neu ddau arall, y dyn oedd yn gwneud y swydd ac nid y swydd yn gwneud y dyn, a chyn bo hir dechreuodd dynion busnes sylweddoli fod y gweinidog newydd yn ddyn llawn mor ymarferol â hwythau ac yn deall llawer o'u problemau yn well na hwy. Ail-drefnodd borthladd Llundain, diogelodd fywydau llongwyr trwy fesur yn ymwneud â llongau marsiandiaeth, a llwyddodd i ddwyn y pleidiau at ei gilydd ac i gytundeb pan gododd anghydfod ar y ffyrdd haiarn a fygythiai ddrysu ac andwyo masnach y wlad. Barn pawb oedd fod Mr. Lloyd George yn llwyddiant digamsyniol yn ei waith newydd a newidiodd syniad llawer o bobl amdano. Tybient fod y "dyn gwyllt " peryglus wedi ei ddofi. Yr oeddynt i sylweddoli eu bod wedi camgymeryd.
Arwahan i'w lwyddiant personol ef yn ei swydd, tymor siomedig a thymhestlog ddigon a fu'r blynyddoedd rhwng 1906 a 1909 i'r weinyddiaeth newydd. Yr oedd ganddi gynlluniau eang; yr oedd wedi ymrwymo i roddi ymreolaeth i Iwerddon, datgysylltiad i Gymru, a phasio