gwasgu cymaint ag un yn rhagor i mewn i'r adeilad. Amddiffyniad i ddarpariadau'r Gyllideb ar gyfer y tlawd a'r diamddiffyn oedd yr araith ar ei hyd, ac yn sicr ni wrandewais i erioed ar ddim hyotlach na rhai darnau ohoni. Ar adegau yr oedd yr areithiwr yn ddigrif y tuhwnt, ond coron yr araith—a choron areithyddiaeth Mr. Lloyd George, efallai—oedd y diweddglo. Daeth dwyster newydd i'r llais ariannaidd a daeth distawrwydd llethol ar y gynulleidfa fawr. Dechreuodd yr areithiwr sôn am y dymestl oedd wedi codi oherwydd y darpariadau yn y Gyllideb a dywedodd nad oedd arno ofn y storm. Nid ar gyfnod o hindda, meddai, y byddent yn myned i'r coed yn Llanystumdwy i gasglu cynnud pan oedd ef yn blentyn, ond pan fyddai'r dymestl wedi rhwygo'r goedwig ac wedi hulio'r llawr â brigau a changhennau. Felly, ar ôl y dymestl hon byddai cynnud i gynhesu aelwydydd hen bobl ac i sirioli bywyd y tlawd. Ac ar hynny torodd yr argae. Y mae llawer o lwyddiant Mr. Lloyd George i'w briodoli i'w ddewrder, i'w gyflymder meddwl, i'w ragwelediad pell, ond yn sicr ni ddylid anghofio ei ddawn areithyddol anghymarol, hen ddawn y pulpud Cymreig ar ei orau, y gallu i ysgwyd, i ddiddori, i gynhyrfu ac i argyhoeddi tyrfaoedd o bobl.
Yr oedd ei ddawn i chwerthin am ben ei wrthwynebwyr yn eu cynddeiriogi yn gymaint â dim. Main a llym oedd ei gleddyf ac yr oedd yn trywanu cyn i'r gwrthwynebydd sylweddoli ei fod mewn perygl. Tua'r adeg yma y dywedodd pendefig ar goedd y rhostiai eidion yn gyfan y dydd y gorchfygid Mr. Lloyd George. Gwell iddo gymryd gofal rhag mynd yn rhy agos i'r tân," meddai Mr. Lloyd George yn ei araith nesaf, rhag i gamgymeriad anffodus ddigwydd!" Ymyrodd Arglwydd Rothschild yn y ddadl yn erbyn cynlluniau Mr. Lloyd George; atebodd y Canghellor ef mewn araith yn fuan wedyn, ac ni ddaeth Arglwydd Rothschild i'r ornest mwy. Gofynnodd y Brenin Edward VII. i Asquith geisio llareiddio areithiau ei Ganghellor, ond nid oes amheuaeth nad oedd yr areithiau hynny wedi adfywio'r blaid Ryddfrydol ac wedi creu gobaith newydd ym mynwesau gwerin gwlad. Yr oedd dau ŵr yng ngwladlywiaeth Prydain wedi ymdrechu gwella'r drefn gymdeithasol o'r blaen; un oedd yr ail William Pitt, a lesteiriwyd ac a