dywedyd na ymostyngent hwy byth i lyfu stampiau i'w rhoddi ar gardiau eu morynion, ac yr oedd y cymdeithasau cyfeillgar hefyd yn bur hwyrfrydig i roddi eu bendith i'r mesur. Bu'r ymgyrch yn un galed neilltuol am beth amser; galwyd ar holl adnoddau Mr. Lloyd George fel dadleuydd ac fel cymodwr, ond yn y bôn yr oedd mwyafrif y bobl yn gweled gwerth y ddarpariaeth ac ni feiddiodd Tŷ'r Arglwyddi wrthod y mesur hwn. Erys, gyda'r darpariadau eraill a'i dilynodd, yn gofgolofn barhaol i welediad a phenderfyniad eu hawdur ac i'r weinyddiaeth a'u gwnaeth yn bosibl.
Ac nid dyna'r cwbl. Yn 1912 ffurfiwyd pwyllgor ar anogaeth Canghellor y Trysorlys i wneud ymchwiliad i ddeddfau'r tir ac i baratoi cynllun i'w diwygio. Yr oedd hyn yn cyffwrdd â'r cysegr sancteiddiolaf, a phan gyhoeddwyd adroddiad y pwyllgor hwnnw ym mis Hydref, 1913, yr oedd yn amlwg ar ei drylwyredd a'i fanyldeb fod sylfeini cadarn yn cael eu gosod i adeilad newydd. Agorodd Mr. Lloyd George ei ymgyrch mewn araith yn Bedford yr un mis a datblygodd gynllun y cydnabyddir heddiw ei fod yn myned at wraidd llawer anhwylder ym mywyd y wlad. Yn yr ymgyrch hon dangosodd unwaith eto y cyfuniad hwnnw o wybodaeth drylwyr a manwl a'r gallu i wneud apel boblogaidd sydd wedi ei nodweddu bron bob amser; yr oedd sylfaen ei ffeithiau yn sicr ac yr oedd ei ddawn i osod y ffeithiau hynny gerbron ac i'w dehongli cyn sicred a hynny. Ond nid oedd ymgyrch y tir ond rhan o'r gwaith yr oedd y weinyddiaeth yr oedd yn aelod mor amlwg ohoni yn ymgodymu ag ef. Yr oedd Iwerddon yn parhau yn broblem o hyd, ac yn fwy o broblem yn awr nag erioed, canys yr oedd Ulster yn bygwth gwrthryfela mewn arfau yn erbyn ymreolaeth a'i gosodai hi ar yr un tir â gweddill Iwerddon, ac yr oedd gwŷr amlwg yn datgan cydymdeimlad ag Ulster, a'r cyfan yn ddiddadl, yn gosod argraff ar feddwl gwledydd eraill fod Prydain wedi ymrannu yn ddiobaith. Yr oedd streic ar ôl streic ddifrifol yn y wlad hon yn bygwth parlysu masnach, ac yr oedd yr ymdrech o blaid sicrhau'r bleidlais i ferched yn datblygu ar linellau eithafol a bygythiol. Yr oedd Mr. Lloyd George bob amser wedi bod o blaid rhoddi'r bleidlais seneddol i ferched, ond nid oedd hynny yn atal y merched