Neidio i'r cynnwys

Tudalen:David Lloyd George (E M Humphreys).djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

raddfa hollol newydd. Daeth yn amlwg yn weddol fuau fod yr Almaen yn drech na Ffrainc na ninnau yn y mater hwn. Hoeliai awdurdodau milwrol y wlad hon eu cred yn y shrapnel a brofodd mor effeithiol yn rhyfel De Affrica, ond defnyddiai'r Almaen belennau ffrwydrol o rym dinistriol nad oeddis wedi defnyddio dim tebyg iddynt erioed o'r blaen. Hyd yn oed gyda shrapnel yr oedd y cyflenwad yn annigonol, ac ofnid y gorchfygid Ffrainc a Phrydain os na cheid cyfundrefn hollol newydd, ynni newydd, a chyflenwad ar raddfa nad oedd yr awdurdodau milwrol wedi breuddwydio am dano o'r blaen.

Lluniwyd swydd newydd a phenodwyd Mr. Lloyd George i'w llanw, dan yr enw Gweinidog Cad-ddarpar. Un o'r pethau mwyaf anodd yn y byd ydyw ein cael i newid ein hên ddulliau i gyfarfod ag amgylchiadau newydd; y mae rhyw wrthwynebiad cynhenid ymhawb ohonom i adael yr hen rigolau, i gyflymu ein cerddediad ac i wynebu galwadau newydd mewn ysbryd newydd. Un o'r pethau sydd wedi gwneuthur Mr. Lloyd George yn ŵr mor eithriadol ydyw ei fod yn rhyddach na'r rhan fwyaf o bobl—yn llawer iawn rhyddach—oddiwrth y diymadferthedd hwn. Gwelodd fod yn rhaid wrth ddulliau hollol newydd, fod yn rhaid torri ar hên arferion a myned ar draws hên derfynau os oedd i lwyddo yn ei waith newydd. Gwnaeth hynny i raddau pan oedd yn Ganghellor y Trysorlys, ac yn awr, wedi gadael y swydd honno am un arall—llai pwysig ym marn y wlad ar y cychwyn, fel y dylid dywedyd yr oedd ganddo faes clir o'i flaen, er fod yn rhaid iddo wynebu arafwch ac ystyfnigrwydd ar hyd y daith. Bwriodd ei hun i'r gwaith gydag ynni anhygoel; torodd ar draws hên arferion, cymrodd siswrn miniog iawn at dâp coch y Swyddfa Ryfel a phob swyddfa arall, gwariodd symiau aruthrol heb ofni, llwyddodd i berswadio meistri gwaith a gweithwyr i roddi rheolau, rheolau cwbl angenrheidiol ar adegau arferol, o'r neilltu dros dro, ymosododd ar broblem y ddiod, oedd yn llesteirio gwaith mewn llawer cyfeiriad, a throdd egni'r wlad i gynyrchu yr hyn oedd yn llwyr angenrheidiol os oedd ein byddinoedd i ddal eu tir o gwbl.

Mewn llyfr o faint hwn ni ellir manylu ymhellach ar waith Mr. Lloyd George fel Gweinidog Cad-ddarpar.