Neidio i'r cynnwys

Tudalen:David Lloyd George (E M Humphreys).djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Digon yw dywedyd iddo lwyddo i weddnewid y safle a gosod safon newydd i gynnyrch adeg rhyfel. Gweddnewidiodd hen weithfeydd a chreodd lu o ffatrioedd a gweithfeydd newydd. Fel y dywedwyd, cam ar i lawr, ar yr olwg gyntaf, oedd gadael y Trysorlys, y swydd nesaf i eiddo'r Prif Weinidog, i ymgymryd â threfnu cad-ddarpar. Heblaw hynny, yr oedd yr anawsterau mor enfawr fel yr oedd yn amlwg fod y neb a ymgymerai â'r gwaith, os oedd wedi gwneud enw iddo ei hun mewn cylch arall, yn peryglu ei glôd a'i ddylanwad wrth gymryd y swydd newydd. Os methai, byddai'r methiant yn drychinebus ac yn derfynol. Yr oedd Richard Lloyd yng Nghricieth yn sylweddoli hyn oll ac, am unwaith, ffaelodd dewrder yr hen ŵr. Cynghorodd ei nai i beidio gadael y Trysorlys, ac yr oedd ei gyngor ef bob amser wedi bod yn ddoeth ac yn graff. Eithr, y tro hwn, penderfynu drosto ei hun yn wyneb cyngor ei ewythr a wnaeth Mr. Lloyd George. Yr oedd ganddo, unwaith eto yn ei yrfa, bopeth i'w golli, a dewisodd y ffordd fentrus. Pan ddaeth yr adeg i adael y swydd ac i ymgymryd a swydd Gweinidog Rhyfel ar ôl marw Arglwydd Kitchener yr oedd clôd Mr. Lloyd George yn sefyll yn uwch nag eiddo unrhyw wleidydd yn y wlad ac, efallai, nac eiddo unrhyw un yn Ewrob. Unwaith eto, yr oedd dewrder wedi talu.

Yn ystod yr amser y bu'n Weinidog Cad-ddarpar daeth elfen arall yn null Mr. Lloyd George yn amlwg iawn, sef ei ddawn i weled gallu a chymhwysterau gwahanol ddynion ac i ddefnyddio'r gallu a'r cymhwyster hwnnw hyd yr eithaf. Yr hen arfer oedd cadw yn fanwl o fewn terfynau'r gwasanaeth gwladol neu filwrol. Malodd Mr. Lloyd George yr arfer honno yn chwilfriw. Chwiliodd am ei bobl ymhobman. Tynnodd hwynt o fasnach ac o ddiwydiant, o'r prifysgolion ac o'r pwll glo. Lle bynnag yr oedd dyn y gallai ddefnyddio ei brofiad neu ei ymennydd neu ei wybodaeth at y gwaith mewn llaw mynnai ei gael, beth bynnag a ddigwyddai i hên reolau ac arferion swyddogol, gyda'r canlyniad i'r wlad fanteisio ar wasanaeth llu o wyr galluog a phrofiadol nad oedd neb o'r blaen wedi meddwl am ofyn am eu cynorthwy na'u cyngor. Yr oedd hyn, wrth gwrs, yn rhwym o .arwain i siomedigaeth weithiau, ond ar y cyfan gellir