Neidio i'r cynnwys

Tudalen:David Lloyd George (E M Humphreys).djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Lloyd George ymddiswyddo, ac, yn ben ar y cwbl, dywedodd Arglwydd Curzon, Arglwydd Robert Cecil ac Austen Chamberlain, tri o aelodau Toriaidd mwyaf dylanwadol y weinyddiaeth, wrth y Prif Weinidog nad oeddynt yn barod i fyned ymlaen gydag ef heb Mr. Lloyd George a Bonar Law. Y penderfyniad yma ar ran yr arweinwyr Toriaidd a drodd y ddadl. Ar y pumed o Ragfyr, 1916, ymddiswyddodd Asquith.

Gofynnodd y Brenin i Mr. Bonar Law ffurfio gweinyddiaeth newydd. Gwelodd yntau na allai wneud hynny, ac, ar ôl trafodaethau pellach, anfonwyd am Mr. Lloyd George. Yr oedd yr holl aelodau Toriaidd yn y weinyddiaeth, ag eithrio un, yn barod i gymryd swydd dano ef; yr oedd yr aelodau Llafur hefyd yn fodlon, ac yr oedd yn amlwg o'r dechrau fod cefnogaeth rhan fawr o'r Rhyddfrydwyr yn sicr iddo. Yr oedd wyth o aelodau Llafur a deuddeg o Ryddfrydwyr yn y Weinyddiaeth newydd, ond arhosodd nifer o'r Rhyddfrydwyr amlycaf allan.

Chwe blynedd ar hugain oedd er pan anfonodd Bwrdeisdrefi Arfon Mr. Lloyd George i'r Senedd i'w cynrychioli y tro cyntaf. Yr oedd yn naturiol iddo fyned i'w wlad ac i'w etholaeth ei hun i annerch ei gyfarfod cyntaf fel Prif Weinidog, ac nid oedd Pafiliwn Caernarfon yn ddigon eang y tro hwn eto i gynnwys y rhai a ddaeth i'w wrando. Siaradodd yntau yn ddifrif am y safle ac am y dyfodol, a bu golygfa i'w chofio pan ddiweddodd araith oedd, efallai, yn drymach ac yn llai hyawdl nag arfer, gyda'r geiriau," Canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn." Yr oedd un peth yn y cyfarfod hwnnw yn taro rhai oedd yn cofio'r hen frwydrau braidd yn chwith. Tori lleol oedd yn y gadair ac yr oedd yn y gynulleidfa ac ar y llwyfan lu o'r bobl a fu gynt yn uchel eu cloch yn beirniadu Mr. Lloyd George, ond yn awr llawn mor frwdfrydig â neb oedd yn y lle. Ysgydwai rhai o'r hen Ryddfrydwyr eu pennau, ond, a siarad yn gyffredinol, y teimlad goruchaf ac amlycaf oedd un o falchter yng ngyrfa ryfeddol y bachgen o Lanystumdwy a oedd, mewn ychydig gyda chwarter canrif, wedi cyrraedd y swydd uchaf sydd yn agored i ddinesydd ym Mhrydain. Os oedd Cymru wedi meddwi ar benodiad Tom Ellis i swydd israddol mewn gweinyddiaeth flynyddoedd yn ôl, pa