faint mwy oedd ei brwdfrydedd yn awr wrth weled Cymro arall o iaith a chalon a thraddodiad yn Brif Weinidog? O hynny ymlaen, am rai blynyddoedd, peth amhoblogaidd. iawn yng Nghymru oedd beirniadu Mr. Lloyd George.
Dylid cydnabod bodolaeth teimlad arall hefyd. Yr oedd y safle ynglŷn â'r rhyfel yn anfoddhaol ac yn ddifrifol iawn. Yr oedd y wlad yn bryderus, ac yr oedd mwy o reswm nag a wyddai y rhan fwyaf dros bryderu. Yr oedd yr ynni a'r medr a ddangosodd Mr. Lloyd George fel Gweinidog Cad-ddarpar yn ernest y byddai iddo ddefnyddio yr un adnoddau fel Prif Weinidog. Gobeithiai'r wlad—ac y mae hyn yn wir am yr holl wlad ac nid am Gymru yn unig ynddo. Credai ei bod yn gweled ynddo obaith am ymwared. Wrth edrych yn ôl, nid yw yn ormod dweyd fod cyfangorff y bobl yn cytuno mai ef oedd y gŵr ar gyfer y cyfwng.