Neidio i'r cynnwys

Tudalen:David Lloyd George (E M Humphreys).djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VIII.

DIFRIFOL iawn oedd y sefyllfa filwrol yn 1917 ac yn hanner cyntaf 1918, ac i ychwanegu at y pryderon yr oedd cryn lawer o ddiffyg cytundeb ymhlith y Cynghreiriaid eu hunain. Cydnabyddir gan bawb y bu dewrder siriol Mr. Lloyd George, hyd yn oed yn y cyfyngau gwaethaf, o werth amhrisiadwy, nid yn unig i'r wlad hon ond hefyd i bob gwlad oedd yn gwrthsefyll yr Almaen yr adeg honno. Yr oedd ei areithiau yn donic, ac hyd yn oed pan edrychai ar yr ochr dywyllaf i bethau, megis yn yr araith enwog ym Mharis yn 1917, yn rhifo camgymeriadau'r Cyngrheiriaid, teimlid fod y tu cefn i'r cwbl rhyw benderfyniad hollol anhyblyg i ddwyn barn i fuddugoliaeth. Y mae yna gnewyllyn o galedwch yng nghymeriad Mr. Lloyd George sydd yn peri ei fod yn ymegnio fwy-fwy pan fydd pethau waethaf. Arferai hen ŵr yn Ardudwy ddywedyd," Pan fydda' i dlotaf, yr amser honno y bydda' i lartsiaf. Chewch chi ddim byd am gwyno." Pan fyddai'r rhagolygon dywyllaf y byddai Mr. Lloyd George fwyaf penderfynol a mwyaf diollwng. Y mae'n anodd mesur gwerth peth felly ar adeg rhyfel.

Ni bu Prif Weinidog yn hollol yr un fath ag ef o'i flaen nag ar ei ôl. Cymrodd gyfarwyddo'r rhyfel, cyn belled ag yr oedd gwleidyddiaeth y rhyfel yn mynd, bron yn hollol i'w law ei hun, gyda Chabinet bychan o'i ddewisiad ef ei hun. Nid oedd yn cyfyngu aelodaeth yn hwnnw i aelodau Tŷ'r Cyffredin na Thŷ'r Arglwyddi; cofir fod y Cadfridog Smuts wedi bod yn aelod, peth na chlywyd am ei gyffelyb erioed o'r blaen. Ychydig iawn. o sylw a dalodd i Dŷ'r Cyffredin, ac wrth edrych yn ôl gwelir ei fod wedi ei wneud ei hun cyn debyced i ddictator a dim a welwyd yn y wlad hon er amser Oliver Cromwell. Yr oedd popeth yn gorfod rhoddi ffordd—hen arferion, rheolau, deddfau—os tybiai Mr. Lloyd George y byddai hynny yn fantais i ennill y rhyfel, ac y mae'n rhaid dywedyd fod cyfangorff y bobl yn eithaf bodlon. Ymdrechwyd unwaith neu ddwy yn Nhŷ'r Cyffredin ei alw i gyfrif, megis y gwnaed gan Asquith yn y drafodaeth ar ddatganiadau'r Cadfridog Maurice, ond y canlyniad bob tro oedd buddugoliaeth seneddol ysgubol i Mr. Lloyd George, a diflaniad, i bob pwrpas ymarferol,