yr hen blaid Ryddfrydol, dros dro, beth bynnag. Credai'r senedd a mwyafrif pobl y wlad mai yn ei ynni a'i benderfyniad ef yr oedd gobaith buddugoliaeth.
O du'r milwyr y cyfododd rhai o'i anawsterau mwyaf. Nid oedd ganddo ffydd yn Syr Douglas Haig, pennaeth y byddinoedd Prydeinig yn Ffrainc, ac nid oedd yn dda rhyngddo â Syr William Robertson, pennaeth y Staff Gyffredinol yn y wlad hon. Nid oedd ef yn fodion ar eu cynlluniau hwy ac nid oeddynt hwythau yn credu ynddo yntau fel, cynllunydd milwrol. Beth bynnag am hynny, y mae'n ddilys ddiamau fod Mr. Lloyd George wedi bod yn hollol iawn ar un pwynt milwrol; credai yn ddiysgog mewn unoliaeth cyfarwyddyd yn y rhyfel a bod yn rhaid, er mwyn cyrraedd hynny, gosod yr holl fyddinoedd, o ba genedl bynnag, o dan un pennaeth.
Ni ellir manylu yma ar y camau a gymerwyd i sicrhau hynny nac ar yr anawsterau lu o wahanol gyfeiriadau y bu yn rhaid eu gorchfygu. Y mae'n hawdd dychmygu am y teimladau a gyffyrddwyd a'r eiddigedd a gynhyrchwyd yn ystod trafodaethau o'r fath, ac nid peth diberyg! o safle Mr. Lloyd George ei hun oedd gosod byddinoedd Prydeinig dan orchymyn ac awdurdod cadfridog tramor. Bu dadlau a chroes-ddadlau ac ymgyndynnu. Methodd barn Mr. Lloyd George unwaith, beth bynnag. Ceisiwyd rhoddi praw ar y cynllun hwn a'r cynllun arall, ac nid cyn 1918, ac wedi i un o drychinebau mwyaf y rhyfel ddigwydd, y cafodd Mr. Lloyd George o'r diwedd ei ffordd a rhoddi yr holl fyddinoedd o dan awdurdod y cadfridog Ffrengig, Foch. Erbyn hynny yr oedd y safle mor ofnadwy o ddifrifol fel yr oedd y wlad yn barod i gytuno i unrhyw beth bron.
Yr oedd Rwsia wedi myned allan o'r rhyfel. Yr oedd yr Eidal wedi ei gorchfygu yn Caporetto, ac am ysbaid ofnid yr ai hithau hefyd allan. Ac ym mis Mawrth, 1918, yr oedd lluoedd yr Almaen yn ysgubo ar draws gogledd Ffrainc unwaith eto ac am yr eildro yn bygwth Paris. Yr oedd ein llongau yn cael eu suddo i raddau mwy o lawer nag a sylweddolid gan y wlad, ac yr oedd nerth Prydain a Ffrainc mewn dynion bron a chyrraedd i'r pen. Dyna'r cyfwng mwyaf y bu'r wlad hon ynddo hyd hynny, a dyna gyfwng mwyaf hanes Mr. Lloyd George fel gwladweinydd hefyd. Un o'r pethau y cofir