Neidio i'r cynnwys

Tudalen:David Lloyd George (E M Humphreys).djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amdanynt ynglŷn ag ef mewn hanes fydd iddo ymegnio i gyfarfod y cyfwng, iddo lwyddo i gadw calon y wlad hon a'i chyngrheiriaid i fyny yn yr awr dduaf, ac na ddaeth ias o wendid i'w ddatganiadau na'i weithredoedd yn y dyddiau trychinebus hynny.

Yr oedd yr America yn y rhyfel erbyn hyn, a phan oedd pethau ar eu gwaethaf apeliodd Mr. Lloyd George at yr Arlywydd Wilson ar iddo anfon milwyr trosodd i Ffrainc ar unwaith. Gofynnodd am 120,000 o ddynion y mis. Atebodd Wilson yr anfonid hwy os gallem ni eu cludo. Gorchmynodd y Prif Weinidog fod pob llong yr oedd yn bosibl ei defnyddio yn cael ei hanfon ar unwaith, a hynny a fu. Daeth y milwyr Americanaidd, cyfanswm o 1,900,000, ac o'r nifer aruthrol hwnnw, cludwyd. 1,100,000 mewn llongau Prydeinig. Gwyddai Mr. Lloyd George cystal a neb beth oedd peryglon hyn. Gwyddai y gallai'r wlad ddarn-lwgu oblegid prinder llongau. Gwyddai y gallem fod heb y nwyddau oedd yn gwbl angenrheidiol at gynhyrchu pethau yr oedd yn rhaid wrthynt. "Ond yr oedd yn rhaid mentro," meddai, ac yn y fenter honno y daeth rhai o'i adnoddau gwerthfawrocaf i'r golwg. Q Ni bu ei bolisi na'i weithredoedd yn ystod y rhyfel heb eu beirniaid, ac y mae'n debyg mai o du'r awdurdodau milwrol y bu'r beirniadu trymaf. Trodd feirniadaeth honno yn chwyrn iawn ar ôl y rhyfel, pan gyhoeddodd Mr. Lloyd George ei "War Memoirs," ond y mae yn rhaid cydnabod fod ei atebion yntau i'w feirniaid ar y tir hwnnw yn anatebadwy. Pwnc arall, ac un anodd, ydyw a ddylesid bod wedi ceisio gwneud heddwch yn 1917, cyn i ddymchweliad llwyr oddiweddyd yr Almaen. Dadleuid gan rai y buasai Ewrob yn fwy sefydlog ac y buasid wedi arbed llawer iawn o fywydau ac o arian pe llwyddasid i wneud hynny, eithr y mae'n amhosibl dywedyd hyd yn oed heddiw a allesid bod wedi sicrhau heddwch parhaol. Y mae'n wir na sicrhawyd heddwch parhaol yn 1918 ychwaith. Ond nid oedd neb yn rhagweled y dyfodol y pryd hynny.

Daeth terfyn ar y rhyfel ym mis Tachwedd, 1918, ac nid yw yn ormod dywedyd mai Mr. Lloyd George oedd y gŵr mwyaf ei ddylanwad a'i awdurdod yn y byd yr wythnosau hynny. Galwodd rhywun ef yn ddictator