gyda chynhadleddau a phethau eraill nes colli cyffyrddiad i raddau â'r hyn oedd yn digwydd o'i gwmpas. Y mae'n rhaid cofio, hefyd, ei fod mewn swydd ers un mlynedd ar bymtheg, a'r blynyddoedd hynny, hyd yn oed cyn y rhyfel, yn flynyddoedd llawn o waith dadleuol pryderus, a'i fod, erbyn 1922, yn Brif Weinidog ers chwe blynedd ac wedi dal pwys a gwres a phryderon llethol rhyfel mawr yn ystod y cyfnod hwnnw. Os oedd wedi blino ac wedi colli peth ar fin ei sylwadaeth ni buasai hynny yn beth i ryfeddu ato, ac ni buasid yn rhyfeddu llawer ychwaith os oedd y moli a fu arno wedi ei argyhoeddi, yn ddiarwybod iddo ef ei hun, fod yn rhaid wrtho.
Ym mis Hydref, 1922, cyfarfu nifer o Doriaid yn y Carlton Club yn Llundain. Gwnaeth Llywydd Bwrdd Masnach araith ar y safle a chynigiodd fod y Toriaid, pan ddeuai'r etholiad, i ymladd fel plaid annibynnol, gyda'i rhaglen ei hun a'i harweinydd ei hun. Ystyr hynny, wrth gwrs, oedd fod diwedd i fod ar y Coalisiwn ac ar arweiniad Mr. Lloyd George. Nid oedd Llywydd Bwrdd Masnach y pryd hynny yn aelod adnabyddus iawn o'r blaid Doriaidd ac nid yw yn ormod dywedyd ei fod bron yn gwbl anadnabyddus i gyfangorff y bobl. Ei enw oedd Stanley Baldwin, a dywedir ei fod wedi mynd i'r cyfarfod gan dybio mai gwrthod ei gynigiad a wneid. Buasai hynny yn golygu ei ymddiswyddiad yntau. Ond, er fod y Round Table wedi dweyd, yn rhifyn y mis cynt, fod pawb yn cytuno mai rhyw fath o goalisiwn fyddai'r weinyddiaeth nesaf, a bod Syr George Younger, prif drefnydd medrus y blaid Doriaidd, wedi canmol y Prif Weinidog tua'r un amser, pleidleisiodd 187 o blaid cynigiad Mr. Baldwin a dim ond 87 yn erbyn. Ymddiswyddodd Mr. Lloyd George ar unwaith ac ymgymerodd ei hen gyfaill, Bonar Law, a ffurfio gweinyddiaeth newydd.
Felly, yn sydyn ac yn annisgwyliadwy i'r rhan fwyaf, daeth tymor Mr. Lloyd George fel Prif Weinidog i ben—chwe blynedd o egni rhyfeddol, o bryderon ac o anawsterau a fuasai wedi llethu llawer un, o fuddugoliaethau mawr, o awdurdod digyffelyb, o rai methiannau cofiadwy, ac, hefyd, o ymdrechion i wella cyflwr cymdeithasol y wlad. Fel y dywedwyd, cred rhai y buasai yn well i Mr. Lloyd George pe buasai wedi ymneilltuo tros dro yn 1918, ar ddiwedd y rhyfel, gan ddyfod yn ôl, wedi gorffwyso,