gynlluniau yn ddewrach ac yn myned yn nes at wraidd y drwg. Gwnaeth rai areithiau da ar y cynlluniau hynny, areithiau yr oedd yr hen dinc yn amlwg ynddynt. Er enghraifft, cofiaf ef yn sôn, mewn araith yn Llandudno, yn 1928, am y bobl "nad oedd grac yn llawr eu nefoedd hwy na ellid ei drwsio gyda chwe' cheiniog o ostyngiad yn nhreth yr incwm." Yn 1935 gwnaeth araith ym Mangor oedd i roddi cychwyn i bolisi ac i fywiogrwydd newydd; sefydlwyd y "Council of Action," a chafwyd cryn lawer o gefnogaeth. Ond, rhywfodd, nid oedd pethau yn symud fel cynt; yr oedd yn amhosibl deffro'r wlad drwyddi. Yr oedd difaterwch Mr. Lloyd George ynghylch rhwymau cyffredin plaid a'i duedd ar hyd ei yrfa i'w hanwybyddu yn awr wedi troi yn ei erbyn ef ei hun. Yr oedd yn unig bellach. Nid oedd y Toriaid erioed wedi bwriadu ei ddilyn ymhellach na rhyw bwynt. Yr oedd y bobl—ac yr oedd llu mawr ohonynt—a'i dilynodd tra yr oedd yn Brif Weinidog ac am ei fod yn Brif Weinidog, wedi ei adael yn ebrwydd pan adawodd swydd, ac yr oedd y bobl oedd wedi parhau yn Rhyddfrydwyr di-gyfaddawd yn ddrwgdybus ohono. Felly hefyd yr oedd Plaid Llafur; yr oedd Mr. Lloyd George yn barod, yn ôl pob tebyg, i fyned cyn belled a hithau ac yr oedd yn alluocach na'r un o'u harweinwyr hi, ond yr oedd Plaid Llafur yn eiddigus o'i hannibyniaeth ac yn ofni ynghylch tynged yr annibyniaeth hwnnw pe dilynai Mr. Lloyd George.
Un o bethau tristaf gwladlywiaeth ddiweddar ydyw fod grym mor fawr ymhlaid y werin a'r tlawd heb ei ddefnyddio. Pan ddaeth y rhyfel presennol bu galw am wneud Mr. Lloyd George naill ai yn Brif Weinidog neu, yn niffyg hynny, yn Weinidog Amaethyddiaeth; teimlid y dylid defnyddio ei allu, ei ynni a'i brofiad anghymarol yng ngwasanaeth y wlad mewn rhyw gyfeiriad. Ni anghofiwyd yr hyn a wnaeth yn y rhyfel o'r blaen. Ar ddechrau'r rhyfel hwn daeth i Gaernarfon i draethu ei farn ar y safle, yr araith wleidyddol bwysicaf, y mae'n debyg, a wnaed ganddo yn ystod y rhyfel. Daeth ef â Dame Margaret Lloyd George i Gaernarfon drachefn, yn 1940, i gyfarfod dathlu ei jiwbili ef fel aelod seneddol. Sgwrs ar yr aelwyd gyda hen ffrindiau oedd yr araith honno, ac, er hapused oedd, credaf fod Dame Margaret