Neidio i'r cynnwys

Tudalen:David Lloyd George (E M Humphreys).djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi taflu ei phriod i'r cysgod y tro hwnnw gyda'r araith fechan, gynnes a wnaeth wrth gydnabod rhodd merched y Bwrdeisdrefi. Yr oedd hi ac yntau, fel arfer, mor gartrefol ymhlith eu hen gydnabod a phe na buasent erioed wedi bod ymhell o olwg Cricieth. Dyna ran o guddiad cryfder Mr. Lloyd George.

Hwyrach mai dyma'r lle gorau i ddywedyd gair amdano fel siaradwr. I ni yng Nghymru nid yw ei ddawn areithyddol yn beth mor newydd ag oedd i'r Saeson, canys hen ddawn y pulpud Cymreig ydyw; y mae tinc y pulpud i'w glywed yn glir yn llais ac ym mrawddegau Mr. Lloyd George weithiau, ac yn Gymraeg tynn yntau ei frawddegau o'r un mwnglawdd â'r hen bregethwyr—o gyfoeth ac ardderchowgrwydd iaith y Beibl Cymraeg. Rhoddwyd iddo un o'r lleisiau pereiddiaf a glywyd ar lwyfan erioed, llais tenor ysgafn, ystwyth, yn llawn lliw a miwsig. Gall gyffwrdd ffynhonnau dagrau cynulleidfa â'r llais hwnnw a'r munud nesaf ei throi i chwerthin neu ei chynhyrfu i ddig. Hyd yn oed pan na bo ganddo ddim neilltuol i'w ddywedyd—a bydd yntau felly weithiau, yn enwedig ar rai pynciau,—y mae sŵn y llais hwnnw yn hyfrydwch pur i'w wrando. Dywedwyd mai dawn y pulpud Cymreig yw ei ddawn; yr oedd dawn actio yr hen bregethwyr yn rhan o'u nerth, ac nid yw Mr. Lloyd George yn ôl i'r un ohonynt yn hynny ychwaith. Clywais Sais diwylliedig oedd yn casau holl bolisi Mr. Lloyd George yn ystod y blynyddoedd ar ôl y rhyfel yn dywedyd ei fod wedi mynd i wrando arno unwaith o raid.

"Nid oeddwn yn credu ynddo," meddai, " ac yr oeddwn yn sicr fod ei bolisi yn un trwyadl ddrwg. Ond cyn pen chwarter awr yr oeddwn yn chwerthin ac yn curo dwylo cyn uched a neb yn y fan. Yr oedd yn medru dweyd mwy gydag un edrychiad nag a fedrai llawer mewn araith faith."

At hynny y mae'n rhaid ychwanegu yr haen o farddoniaeth sydd yn ei areithyddiaeth bob amser—nid hyodledd rheithegol ond fflachiadau o wir farddoniaeth—a'r cyffelybiaethau a ddaw iddo megis ar antur. Enghraifft nodedig o hyn oedd y darn hwnnw yn ei araith yng Nghaernarfon yn 1939 pan soniodd am y glawogydd yn cadw'r byddinoedd rhag rhuthro ar ei gilydd, ac yr ychwanegodd, "Pwy a wyr nad o'r dilyw yma y daw