Neidio i'r cynnwys

Tudalen:David Lloyd George (E M Humphreys).djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

colomen heddwch a deilen yn ei phig." Aeth ias trwy'r gynulleidfa, a soniais am y peth wrtho ar ôl y cyfarfod. "Ar y funud y daeth y golomen," meddai yntau. "'Doedd- wn i ddim wedi meddwl amdani hi nes yr oeddwn i wedi dechrau sôn am y glaw." Digwyddodd peth tebyg yn Eisteddfod Dinbych yr un flwyddyn. Sôn yr oedd. am yr Eisteddfod yn parhau trwy'r holl dymhestloedd. "Yr oeddwn yn croesi'r Migneint ar fy ffordd yma. heddiw," meddai, "a bum yn siarad â rhai o'r amaethwyr ar yr ucheldiroedd. Yr oeddynt yn sôn am y stormydd mawr sydd wedi bod yn ystod y misoedd diwethaf, glawogydd a gwyntoedd nad oes neb sy'n fyw yn cofio eu tebyg. Ond 'doedd dim o'u hôl nhw ar y mynydd." Ar y funud y daeth y gyffelybiaeth honno hefyd. Fel yna y mae ei feddwl yn gweithio, fel y gwyr pawb a fu yn ei gwmni. Y mae ei barodrwydd yn nodedig. Cofiaf rhywun yn gofyn, mewn cyfarfod o amaethwyr ym Mhwllheli, yn lled fuan ar ôl y rhyfel, a oedd obaith i ffermwyr gael benthyg arian am lôg o ddau a hanner y cant. "Y mae arna'i ofn nad oes dim," meddai Mr. Lloyd George. "Pump ydi hi 'rwan, ynte, mi fydd yn dipyn cyn y bydd hi'n bedwar, ac yn fwy na hynny cyn y bydd hi'n dri. Ac mi fyddwch chi a minnau, fy nghyfaill i, wedi rhoi'r gorau i ffarmio cyn y bydd hi'n taro hanner awr wedi dau."

Arwahan i'r gallu areithyddol a'i gosododd yn rheng flaenaf areithwyr ei ddydd, y mae'n debyg mai'r ddwy elfen sydd yn cyfrif yn bennaf am ei lwyddiant ydyw ei ddewrder a'i gyflymder. Gobeithiaf fod y dewrder wedi dyfod yn ddigon amlwg yn hynny o'r hanes a ysgrifennwyd yma o'r adeg, bell yn ôl erbyn hyn, yr heriodd fan-ormewsyr Sir Gaernarfon, hyd y dydd y mentrodd bopeth, dro ar ôl tro, yn ymdrech y rhyfel mawr. Pan fo Mr. Lloyd George yn ffyddlon i'w ddewrder cynhenid y mae, fel rheol, yn ddiogel. Pan ffaelo hwnnw, fel y gwnaeth ym marn llawer pan anfonodd aelodau Tŷ'r Cyffredin y teligram trychinebus hwnnw ato i Baris, y mae bob amser wedi colli'r ffordd. Am ei gyflymder meddwl bu hwnnw, mewn ystyr, yn nerth ac yn wendid iddo; yn nerth am ei fod yn ei alluogi i weled ac i weithredu ymhell o flaen y rhan fwyaf o'r bobl fydd gydag ef neu yn ei erbyn, yn wendid am ei fod wedi peri i bobl arafach fod yn ddrwgdybus