ohono. Y mae wedi newid ei feddwl ac wedi gweithredu ar y newid hwnnw tra bont hwy yn ystyried y posibilrwydd o newid. Arhosant yn eu hunfan neu tuthiant ar ei ôl, gan ryfeddu at ei anghysondeb, ag yntau yn methu yn lan a deall eu harafwch poenus hwy.
Ni bu neb yn y wlad hon yn fwy poblogaidd na Mr. Lloyd George am beth amser. Ni bu neb erioed yn fwy amhoblogaidd ar rai cyfnodau, ac am gyfnodau eraill ni bu neb, heb eithrio Mr. Gladstone, yn fwy o ddyn gan ei ganlynwyr ac yn nes i gythraul ym marn ei wrthwynebwyr. Yr un peth amhosibl ynglŷn â Mr. Lloyd George ar hyd ei yrfa ydyw bod yn ddifater yn ei gylch. Y mae ganddo swyn personol rhyfedd a'r ddawn amhrisiadwy o fedru gyrru dynion heb iddynt hwy wybod eu bod yn cael eu gyrru. Y mae brwdfrydedd a sel Mr. Lloyd George yn eich tanio chwithau pan fyddoch yn ei gwmni, ac yr ydych wedi cytuno â llawer o bethau cyn sylweddoli eich bod wedi gwneud dim o'r fath. Paham, ynteu, y gadawyd ef mor unig, yn wleidyddol, yn ystod y blynyddoedd olaf hyn? Y mae amryw resymau yn cyfrif am hynny, ond un ohonynt ydyw nad oedd, yn nyddiau ei awdurdod mwyaf, yn hoffi cael dynion o feddwl annibynnol ac o ewyllys anhyblyg o'i gwmpas. Dynion medrus, oedd yn barod i gymryd eu cyfarwyddo a'u gorchymyn ganddo ef, oedd orau ganddo, ac er bod dynion felly yn ddefnyddiol dros dymor, y mae ar bob arweinydd angen y lleill pan ddaw'r storm a dydd y praw. Ac nid oedd gan Mr Lloyd George, i ddefnyddio geiriau Macaulay unwaith eto, "a band of such tried friends as Fox and Canning had to support him."
Ni bu Mr. Lloyd George erioed yn ddyn plaid da, a'r canlyniad ydyw fod pob plaid yn ei thro wedi edrych yn ddrwgdybus arno. Gellir dywedyd un peth amdano heb os nac onibai; ar hyd ei yrfa faith bu ei gydymdeimlad gyda'r tlawd a bu ei ymdrechion i wella cyflwr y werin. Fel y dywedwyd o'r blaen, anffawd a thrychineb oedd i ryfel ddyfod ar draws ei waith o blaid gwelliannau cymdeithasol. Mewn hanes cofir amdano ar gyfrif ei ymdrechion a'i ddewrder yn ystod y rhyfel, ond daw adeg pan gyfrifir yr hyn a wnaeth i newid cyfundrefn gymdeithasol y wlad ac i wneud bywyd y werin yn llai dibynnol ar ffawd a damwain fel ei waith pwysicaf a hwyaf ei barhad.