Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn rhywle. O nage. Ni a fyddwn i gyd yn glanio yn rhywle—o byddwn. Yr ydym i gyd yn nesâu i ryw wlad. Ond yr oedd y llong wrth y tir "lle'r oeddynt yn myned," y tir oedd mewn golwg ganddynt wrth godi'r angor, y tir oedd mewn golwg gynnyn nhw wrth rwyfo am oria lawer. Ac fe fuo'n yn ofni lawer tro na welent mo'r llong, ond i'r lan y deuthon' nhw, beth bynnag—i'r tir yr oeddynt yn mynd iddo."

Y mae yma aml un wedi codi angor, ac wedi cychwyn tua'r wlad well y maent yn ei chwennych. Yr ydych wedi codi angor i fynd yno, ac wedi rhwyfo llawer eisoes. Y mae'r tide a'r gwynt yn erbyn yn amal, ond y mae meddwl am y tir yn rhoi nerth adnewyddol—"y tir dymunol" sydd mewn golwg o hyd. "Tybed y gwelai o?" Gweli, gweli, ychydig o donnau go gryfion eto a mi fyddi wedi dy'sgydio ymlaen, ac fe fydd yr hen long wrth y tir—y tir oedd. mewn golwg wrth gychwyn—y tir oedd mewn golwg wrth rwyfo, y tir oedd mewn golwg wrth ymladd â'r gwynt a'r tonnau. Y tir lle'r oeddit yn myned. Y mae yna ambell un ar ganol y cefnfor garw yn dyheu am y tir—Tyrd y tir dymunol, hyfryd.'