Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn llu mawr. "O hyn allan," meddir, "llawer o'i ddisgyblion ef a aethant yn eu hôl, ac ni rodiasant mwyach gydag Ef." Ac nid yw yntau yn ceisio ganddynt aros gydag ef, gan addo newid tipyn ar ei ymadrodd i gyfarfod a'u chwaeth hwy, ond yn gofyn i'r deuddeg apostol, "a fynnwch chwithau hefyd fyned ymaith?"

Efengyl dragwyddol ein hiachawdwriaeth yw'r Efengyl. Faint bynnag ydyw'r goleuni sydd wedi cyfodi yn yr oes hon ar bethau naturiol, y deddfau a'r galluoedd a berthyn i natur, a pha ddarganfyddiadau bynnag a wnaed trwy'r goleuni mawr hwn—ac y mae rhywbeth tebyg i wyrthiau yn cael eu gwneud; ond does dim byd a wnelo hyn i gyd ag Efengyl Gogoniant y Bendigedig Dduw, am yr hon yr ymddiriedwyd i ni. Yr un yw anghenion mawrion plant dynion fel pechaduriaid colledig ymhob oes. Yr un ydyw llygredd pechod, yr un yw'r byd presennol yn ei hudoliaethau, ei demtasiynau, a'i brofedigaethau.

Fe ddywedir am ein bendigedig Waredwr Iesu Grist: "ddoe a heddiw, yr un, ac yn dragywydd." Felly y gellir dweud am ei Efengyl, yn ei holl gyflawnder mawr. Efengyl "ddoe a heddiw yr un, ac yn dragywydd;" ac nid rhywbeth yn newid, newid, newid, i gyfarfod mympwyon a chwaeth yr oes of hyd, o hyd.

"Pregetha y gair," ydyw un o eiriau diweddaf yr Apostol Paul wrth Timotheus ieuanc—ei siars olaf oddiar drothwy byd arall, "megis yr ydwyf fi, gan hynny, yn gorchymyn gerbron Duw a'r Ar-