Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

miloedd lawer yn yr eglwysi wedi syrthio i ryw ddifaterwch, i ryw farweidd-dra. Yr wyf yn credu eich bod chwi yn well yn y dref yma nag ydym ni yn y wlad acw. Yr oeddych yn well pan oeddwn i yn byw yma, beth bynnag, ond nid am fy mod i yma (chwethin). Mae rhyw farweidd-dra a difaterwch—cannoedd lawer o bobl nad oes dim modd eu cael i'r Seiat unwaith mewn blwyddyn, a 'does dim posib' cael ganddynt ddod i'r cyfarfod gweddi o gwbl. Wel, dyma brofedigaeth yr Iesu, gyfeillion. Ond eto, y mae cannoedd yn y gynulleidfa fawr hon y gall yr Iesu bendigedig ddweud wrthynt, "Chwychwi yw y rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau." Fe allwn i gyd wneud hynny, gyfeillion, aros gydag ef, y mwyaf anneallus ohonom, y mwyaf anllythrennog ac annysgedig. Tydi, y dyn a chanddo allu mawr i fod yn anwybodus, a'r dyn fedr fod yn ddwl, "Wel, d'wyf fi dda i ddim." Wyt, yn dda i lawer, ti elli aros hefo Iesu Grist yn ei brofedigaethau. Y mae un gŵr meddylgar yn dweud ar yr adnod yma,— "'Dyw aros yn cynnwys dim, ond peidio a mynd i ffwrdd." Da chwi, bobl ieuanc annwyl, gannoedd ohonoch, peidiwch a myn'd i ffwrdd. Mae yr achos. yn isel, peidiwch a mynd i ffwrdd; arhoswch—stwffiwch ato pan mae yn ei brofedigaethau. "Minnau a'i haddefaf yntau." Beth? "Teyrnas." Pensiwn. da? Pensiwn wir—"teyrnas;" a hynny am ddim byd ond peidio a mynd i ffwrdd. Peidio a mynd i ffwrdd. Mae pawb o'r deiliaid yn y deyrnas hon yn frenhinoedd, welwch chi. Clywch hwy yn dweud, "Iddo ef, yr hwn a'n carodd, ac a'n golchodd oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun, ac a'n gwnaeth ni yn frenhinoedd." Mae'n rhywyr i rai ohonoch ddechrau tocio eich hunain. "Brenhinoedd".—