Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PREGETH.



"CADW DY GALON YN DRA DIESGEULUS."

Diarhebion iv. 23.

Y MAE'R bywyd naturiol yma a'i holl weithrediadau yn dibynnu ar y galon. O'r galon y mae'r gwaed yn derbyn ei ysgogiad yn barhaus yn ei gylch rediad trwy'r holl gorff. Daw yn ôl i'r galon i dderbyn cynhyrfiad newydd drachefn a thrachefn. Felly y mae'r bywyd moesol yma, a holl weithrediadau'r bywyd hwnnw, yn dibynnu ar y galon mewn ystyr foesol. Y galon, y rhywbeth rhyfedd hwnnw o'n mewn sydd yn ffynhonnell ein holl serchiadau, ein teimladau, ein dymuniadau, a'n hamcanion. Rhyw fath o babell cyfarfod ydyw i feddyliau, myfyrdodau, a dychmygion; ac oddiyno y mae meddyliau fel yn cael eu hanfon allan yn weithrediadau o bob math, ac yn dychwelyd megis i'r galon yn feddyliau i gael cynhyrfiad newydd i fynd allan yn weithrediadau drachefn.

Wel, "cadw dy galon yn dra diesgeulus."

I. NI A GAWN AIR YN BRESENNOL AR BWYSIGRWYDD Y GADWRAETH YMA.

Ni allwn lai na theimlo yn awr ar funud o ystyriaeth fod y cadw hwn yn rhyw gadw o bwys mawr iawn. Fe ellid dweud llawer ar gadw'r galon rhag