Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei therfysgu gan drallodion y byd—"na thralloder eich calon;" ond cadw'r galon rhag ei halogi gan yr hyn sydd ddrwg sydd gennym yn awr.

(a) Y mae'r cadw hwn yn bwysig am y bydd pob cadw arall yn allanol yn aflwyddiannus heb gadw'r galon o fewn. Y mae'r gadwraeth allanol yma i fod hefyd—gwneud llwybrau uniawn i'n traed, a chadw ein ffyrdd rhag pechu. "Gan fod a'ch ymarweddiad yn onest ymysg y cenhedloedd." "Ymddygwch yn addas i efengyl Crist." "Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o'ch genau chwi." Y mae'r cadw allanol yma i fod—y geiriau, y gweithredoeau, a'r ymddygiadau. Ond nid yn y fan yma y mae'r wyliadwriaeth flaenaf i fod. Beth i'w feddwl a beth i beidio ei feddwl sydd yn bwysig. Nid trafferthu'n bennaf i geisio cau ar y drygioni sydd i mewn yn y galon rhag torri allan yn ddrygioni yn y fuchedd. Ni ddown ni ddim i ben â hi fel hyn. Fe fydd y drafferth yn aflwyddiannus pan mae'r galon fel yn llawn hyd yr ymyl o lygredigaeth mewn meddyliau a myfyrdodau. Y mae'n colli drosodd yn union trwy ryw ysgydwad lleiaf, megis, gan demtasiynau oddi allan. Clywch chi eiriau ein Gwaredwr, "O helaethrwydd y galon y llefara y genau. Y dyn da o drysor da ei galon a ddwg allan bethau da." Gofalu am fod yn dda, ac fe ofala y bod am y gwneud. Gofalu y bydd yr hyn sydd yn y galon yn drysor da, ac nid bod o hyd yn treio cadw'r hyn sydd i mewn rhag dod allan. Ond allan y daw mewn rhyw ffurf neu'i gilydd. Clywch eto: "Y dyn drwg, o drysor drwg ei galon, a ddwg allan bethau drwg." Nid yr un pethau drwg a ddygir allan gan bawb o'r un trysor drwg. O Jeriwsalem golch dy galon oddiwrth ddrygioni fel y bydd-