Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr hen Esgob Beveridge: "Yr ydwi'n penderfynu, trwy gymorth gras Duw, bod mor ofalus rhag lletya o'm mewn ofer feddyliau ag y bydda i o ofalus i gadw draw ddrwg feddyliau." A glywch chi un arall o'r saint: Meddyliau ofer a gasheais." Parod ydyw y rhain i ryw growdio yn lluoedd i mewn i'r galon, yn enwedig ar oriau hamdden, fel mai'r amser y bydd dyn heb ddim i'w wneud yn bur fynych ydyw'r amser y bydd yn fwyaf prysur. Y mae'r galon yn brysur, ond O, brysurdeb diles ydyw,—galluoedd yr enaid yn cael eu treulio ar ofer a gwag feddyliau, a meddyliau sydd mor ffol y buasai ar ddyn gywilydd eu dweud hyd yn oed wrtho'i hun. Dydd freuddwydion nad ydynt dda i ddim ar gyfer y byd hwn na'r byd a ddaw. Y mae ofer feddyliau, heblaw eu bod yn anghymwyso dynion i bob da, yn arwain i ddrwg feddyliau.

(c) Dyma gyfarwyddyd arall: Rhaid gochel yr achlysuron i ofer a drwg feddyliau—y pethau o'r tu allan sydd yn achlysuro meddyliau anghymeradwy a'u dwyn i galon dyn. Rhaid gwylio y ffyrdd, y passages, rhywsut, y mae meddyliau nad ydynt dda yn ymlwybro ar hyd—ddynt, megis, yr amgylchiadau y byddwn ynddynt, y gymdeithas y byddwn yn troi. ynddi, y llyfrau a ddarllenwn, synhwyrau'r corff, ac yn enwedig y clyw a'r golwg. Os ydyw ymadroddion drwg yn llygru moesau da y maent yn sicrach. fyth o lygru meddyliau da. "Edrychwch beth a wrandawoch," medd un gair, ac un arall, "troi ymaith y llygaid rhag edrych ar wagedd." Y mae un o'r hen Biwritaniaid yn dweud fod synhwyrau'r corff yn fath o ffenestri, a bod meddyliau yn cripio i mewn trwyddynt i'r galon. Rhaid ydyw cadw gwyliadwriaeth fanwl ar y ffenestri hyn. O mor brysur ydyw'r