Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymdrech deg yn erbyn y cynygion cyntaf. Y maent yn cael eu danfon gan y diafol fel rhagredegwyr i baratoi'r ffordd i bethau eraill gwaeth na hwy eu hunain. Edrychwch pan ddêl y gennad hwnnw i mewn," medda Eliseus wrth yr henuriaid rheini, pan oedd brenin Israel yn cynllunio i'w ddifetha. "A welwch chwi," medda gŵr Duw, "a welwch chwi fel yr anfonodd mab y llofrudd hwn i gymeryd ymaith fy mhen i—mae o am dorri mhen i, 'does dim dowt, ac y mae ganddo ryw gennad, digon diniwed yr olwg arno, yn dyfod o'i flaen ef. Edrychwch gan hynny," meddai, "edrychwch pan ddêl y gennad i mewn. Ceuwch y drws, a deliwch ef wrth y drws, onid ydyw trwst traed ei Arglwydd ar ei ol ef." Pan mae'r gwrthwynebwr diafol, y lleiddiad dyn hwn, a'i fryd ar ddifetha enaid trwy feddyliau llygredig, y mae ganddo ryw gennad o feddwl ofer i'w anfon o flaen y drwg feddwl i baratoi'r ffordd. Edrychwn, gan hynny, pan ddel y gennad i mewn ceuwn y drws, a daliwn ef wrth y drws. Os daw hwn i mewn anodd iawn fydd cadw'r llall allan—y nesaf peth i amhosibl. Tendiwn y gennad, gyfeillion, ceuwn y drws. "Onid ydyw trwst traed ei arglwydd ar ei ol ef?"

Da ydyw ymladd â drwg feddyliau pan fyddont wedi dod i mewn ac yn terfysgu'r enaid. "O ble y doist ti dywed," medda'r morwyr rheini wrth Jona ynghanol y dymhest1 fawr honno. "A Jona a aethai i waered i ystlysau y llong." A dyma rai o'r morwyr i lawr ato fo ac yn ei lusgo fo i fyny i'r dec, yn bur ddiseremoni hefyd, ac yn dechrau i gwestiyno fo am yr achos o'r ystorm ofnadwy, gan led awgrymu mai efo oedd yr achos. "Beth yw dy gelfyddyd di?" medda nhw. "Beth ydi dy grefft di, dywed, ac o ba le y deuthost ti?" Glywch chwi gymaint o gwesti-