Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Arferai David Williams, y pregethwr, ddweud flynyddoedd ar ol hyn mai cyfnod pwysig ydyw'r adeg y bydd un wedi colli diniweidrwydd plentyn, a heb gael synnwyr dyn. Llithro a wnaeth Dafydd trwy'r trawsgyweiriad heb faglu na rhoddi magl. Fe ddaeth y deffroad ysbrydol ar warthaf y deffroad hwnnw sy'n naturiol i fachgen rhwng deuddeg a phedair ar ddeg oed.

William Jones, y gwr y soniwyd am dano—ef oedd hwsmon y Bryniau—ac offeiriad hefyd. Cadwai'r gŵr disyml hwn lamp crefydd yn olau yn y teulu trwy gydol y blynyddoedd. Fe'i gwelid bob bore gwedi brecwast yn estyn y Beibl oddiar y ffenestr yn ymyl, yn ei osod ar y bwrdd mawr gwyn, ac yn myned trwy'r gwasanaeth. 'Gweddi fach syml a digon unffurf a fyddai gan yr hen frawd, o fore i fore, ond yr oedd ei gymeriad—ac yr oedd hwnnw cyn wynned â'r eira—yn ei chadw'n eithaf derbyniol.

Yn ebrwydd iawn, fe ddaeth Dafydd yn gyfrannog â William Jones mewn cadw dyletswydd, ac nid oedd yno neb yng nghegin y Bryniau yn peidio a rhyfeddu at y cyfoeth, y dwyster a'r aeddfedrwydd oedd yn eiriolaeth y bachgen. Y gwir ydyw, fe aeth yn frenin yn syniad y teulu a'r gwasanaethyddion oll. Rhoes hyn blwc i'r tad, a'i ddwyn yn nes at fyd William Jones a Dafydd. Codai o hyn allan yn brydlon at yr awr weddi.

Porthi'r gwartheg oedd ei orchwyl ar y fferm. Prin hwyrach y gellid dim yn amgen ohono na "phorthwr." Nid oedd iddo ddiddordeb' mewn gwaith amaeth, ac yr oedd yn bur anghelfydd ei law. Fe ddywedir ei fod yn dyner ryfeddol wrth anifail, ac ni fu'n fyr o estyn iddo'i borthiant. Fel y tyfai'n