Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Llyn-iaidd, corff cadarn-lydan, heb fod yn dal; wyneb llyfn a di-flew, dau lygad byw a heulog; gwallt du, a hwnnw'n gnwd toreithiog, ac, i bob golwg, yn herio goruchwyliaeth y crib. Yr oedd glendid corff yn un o erthyglau amlwg ei ffydd, ac yn ol adroddiad ei gyd-letywyr fe âi trwy ddefod y golchiadau yn dra seremoniol.

Fe gafodd ei wisg sylw yn anad dim. Am dano yr oedd siwt o frethyn cartref na chafwyd erioed ei gwell o ran deunydd, ond barn unfrydol y bechgyn ydoedd mai cut Porthdinllaen oedd arni, ac nid y latest London. Ymhen amser newidiodd yntau ei ddull o wisgo, a dilynodd beth ar ffasiwn dynion; ond o ran ei bersonoliaeth cadwodd yn rhyfeddol o ffyddlon at y toriad cyntaf. Enillodd wybodaeth, a daeth dan ddylanwadau a oedd yn ddieithr iddo, hyd yn hyn, ond gwrthododd fynd yn debyg i neb arall. Brethyn cartref praff a durol oedd David Williams ar ddiwedd ei gwrs, megis ar ei ddechrau.

Cyd-letyai yn y Bala gan mwyaf o'r amser yn yr un tŷ ag Edward Griffith, Meifod, a David Lloyd Jones, ac ni fu hawddgarach dri gyda'i gilydd.

Y noswaith gyntaf iddo fod yn ei lety newydd. fe'i rhoed i ddarllen a gweddio ar ddyletswydd, ac nid un ar ei brentisiaeth oedd ef yn hynny o beth, fel y gwyddys. Cyn pen ychydig funudau, wedi dechrau ohono ar y gorchwyl, yr oedd y llanc o Lŷn wedi ennill ei le am byth ym marn y myfyrwyr a'r teulu. Ni chlywsent erioed ddim mwy cyfoethog, detholedig, ac ysgrythyrol. Yn wir, yr oedd y Beibl megis yn ei fwrw'i hun at alwad y gweddiwr, a'r cwbl yn llaw gwreiddioldeb profiad dwfn. Yr oedd David Lloyd Jones yn mwynhau, ac yr oedd Edward Griffith yntau yn wylo dagrau melys, a'i "Amen " heb atal dywedyd arni.