Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

leisiog, yn ardal y Dinas, ac fel "David Williams Cefnleisiog" yr adwaenid ef gan y wlad am gryn amser ar ol hyn. Gallwn feddwl ei fod yn serchog a chyfeillgar iawn gyda'r bechgyn; oblegid go anaml y deuai adref ar ei wyliau heb fod un ohonynt yn gwmni iddo. Ni fyddai neb yn falchach o weld y deithriaid nag Owen Williams, y tad. Eisteddai wrth ei fodd am oriau meithion i wrando rhamantau'r bechgyn; am droeon yr yrfa, yn felys a chwerw; am ddireidi hwn, a thrwstaneiddiwch y llall, am helyntion y teithiau pregethu, ac, wrth gwrs, yr oedd castiau ceffylau Reis yn ystorfa ddi-ben-draw.