Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pontydd yn y golwg. Ar y tro, yng nghwr ynys Fôn, dacw'r Plas Newydd a'i wyneb urddasol ar Fenai, y lawnt baradwysaidd o'i flaen, a'r coed o'i gwmpas yn gwarchod. Yr ochr gyferbyn, yn nhir Arfon, y mae'r Faenol a'i phlanigfeydd tlws. Gwelwch fel y mae'r afon wrth ddelweddu ar ei hwyneb degwch y golygfeydd arddunol, yn mynd yn hudol o brydferth.

Yn 1840 yr agorasid capel cyntaf Bethania, ac yr oedd John Elias, adeg ei agor, "yn cyfeirio at y tri chapel oedd y pryd hwnnw o fewn ergyd carreg i'w gilydd, sef capel yr Annibynwyr, ac un y Wesleaid, ynghydag un y Methodistiaid, a chymharai hwy i dair ffort,' gan hyderu na byddai iddynt droi eu magnelau ar ei gilydd i ddinystrio'i gilydd, gan eu bod yn perthyn i'r un deyrnas, ac o dan yr un brenin."[1]

Nid oedd rhif yr aelodau ar y cychwyn ond 28. Daliodd yr eglwys ieuanc i ennill nerth, ac yr oedd yno wyr grymus yn gefn iddi, a Morris Hughes yn arweinydd diogel.

Yng Nghyfarfod Misol Salem, Betws Garmon,. ym mis Mawrth, 1865, bu cymeradwyo'r alwad a roddid i'r Parch. David Williams, Cefnleisiog, i ddyfod i Fethania, Y Felinheli, i'w gwasanaethu fel bugail, ac yr oedd Rees Jones a Dafydd Morris i fyned yno i gymryd llais yr eglwys ar yr achos. Atebodd yntau'r alwad yn ffafriol, ac y mae'r cofnod hwn o adroddiad Cyfarfod Misol Tudweiliog a gynhaliwyd Mai 8, 1865, yn un go drawiadol:

  1. .Hanes Methodistiaeth Arfon gan y Parch. W. Hobley. Cyf. 6.