Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Dangoswyd gafael neilltuol yn y brawd ieuanc. David Williams, Dinas, ar ei ymadawiad i fod yn fugail ar eglwys Bethania, Y Felinheli, a phender- fynwyd rhoddi llythyr o gyflwyniad iddo i Gyfarfod Misol Arfon, mewn gobaith y caiff bob cymorth i ddysgu ffordd yr Arglwydd gyda'r fath ddifrifwch ag a fydd yn effeithiol i droi llawer at yr Arglwydd." Daeth yntau yno Mai 12, 1865.

Y mae'n debyg mai un rheswm dros alw bugail oedd y golled a deimlid ar ol marw Morris Hughes. Eglwys ieuanc, bump ar hugain, oedd Bethania, a honno'n un fyw, weithgar, a'i hwyneb tua chodiad haul. Trwy rym y Diwygiad aethai'r diadell a gychwynnodd yn 28 yn eglwys o 204. Yr oedd yno gapel newydd hardd, a bu raid cael oriel newydd ar hwnnw. Cai'r gweinidog ieuanc gymorth parod a gwrogaeth ddibrin gan y blaenoriaid, Daniel Roberts, Evan Evans, Robert Evans, John Roberts, ac, yn fwy diweddar, John Hughes, ac un arall sydd heddiw'n fyw, sef Ei Anrhydedd J. Bryn Robertsgwŷr rhagorol ymhob ystyr. Cadwent hwy wybed y mân bethau rhag blino'r gweinidog, oblegid gwyddent hwy'n burion mai dawn arall oedd yr eiddo ef.

Yr oedd sefyll "yn barchus" yn arholiadau'r Bala yn gymaint ag y gellid ei ddisgwyl oddiwrth Ddavid Williams, ond, pan aeth i'r arholiad ordeinio gwelwn ef yn sefyll yn bedwerydd ar y rhestr. Yn Sasiwn Llanfaircaereinion Mehefin 4, 1866, y bu'r ordeinio arno. Henry Rees a ofynnai'r cwestiynau ac Owen Thomas a roddai'r cyngor. Priodi eglwys, a heb lawer o ymdroi, priodi gwraig-dyna drefn datblygiad y cyffredin o fugeiliaid ieuanc; ond am Ddavid Williams, nid yn unig ni