Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Synnwn braidd i eglwysi Lerpwl fod cyhyd heb ei adnabod a mynnu ei glywed. Yn y flwyddyn 1873, ymhen wyth mlynedd wedi ei fyned i Arfon, y dechreuodd y ddinas, i ddim pwrpas, ei wahodd i'w phulpudau, ond wedi'r dechrau, fe ddeuai'r galw am dano beunydd.

Pregethai yno'n amlach, amlach, a thynnai ei enw gynulliadau mawr lle bynnag yr âi. Nid oedd ond un David Williams mewn na thref na gwlad. Ai yno'n wladwr graenus, awyrgylch gwlad o'i gwmpas, ac ymadroddion gwlad yn groyw yn ei enau. Heblaw hynny, dyn o'r wlad ydoedd a chanddo rywbeth i'w ddweud, ac fe wnai hynny â di- frifwch ysbrydol, gwreiddioldeb cartrefol, a phertrwydd trawiadol.

Yn y man, fe ddaeth iddo wahoddiad cynnes i fyned i fugeilio hen eglwys barchus Pall Mall, Lerpwl. Chwithig i olwg llawer o'i gyfeillion oedd ei fyned ef, un a garai dawelwch yr encilion, i ferw aflonydd y ddinas; ond yno y penderfynodd fyned, a diamau mai'r rheswm cryfaf am hynny ydoedd ei hoffter neilltuol o gynulleidfaoedd Lerpwl, a'r derbyniad awchus a gâi ei weinidogaeth yno. Yn ei gyfarfod ymado siaradodd Rees Jones am y teimladau da a ffynnai rhyngddo a'i eglwys. Dywedodd David Jones, Treborth, y gallai fyned fel dyn wedi gwneud ei ddyletswydd. Mynnai Robert Ellis mai teyrnged i David Williams ydoedd bod yr eglwys yn meddwl am un yn ei le ac nid fel y wraig honno a ddywedodd, "Pe bai imi fyned yn weddw, phriodwn i byth eto." Gwell fuasai gan Griffith Jones, Tregarth, fod yno yn sadio'r brawd i atal yr ymadawiad. "Y mae hwn a hwn am fy lladd i," meddai rhyw ddyn wrth y brenin, "a wn i yn y byd beth