Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wnai." "Os lladd o di, bydd i minnau ei ladd yntau drannoeth," ebr y brenin. "Os gwelwch yn dda," atebai'r dyn, "be baech yn ei ladd ddiwrnod ymlaen mi fyddwn i yn lled ddiogel." "Yr ydym wedi colli'r diwrnod i dreio'i sadio fo. Wel, y mae'n lwc mai nid i'r nefoedd y mae'n mynd, ond i Lerpwl, ac y mae'n mynd heb yr un blewyn gwyn yn ei ben, na'r un yn ei bregeth chwaith."

Aeth David Williams o'r Felinheli a'i lun mewn un llaw, codaid o arian yn y llall, a bendith yr eglwys ar ei ben.