Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chyfeillion i'w helpu, a 'doedd dim overseer tlodion yn y wlad honno, na guardian, na phlwy, na relieving officer, welwch chi, i ofalu am drueiniaid fel hyn. Oedd, wir, yr oedd o'n fychan ei fyd ac yn fychan ei gysur. Yr oedd wedi mynd yn adnabyddus fel cardotyn,—pawb yn i nabod o. Ni fedrai ymlwybrodim ond rhyw gropian i ymyl y ffordd, ac nid oedd ganddo ddillad gweddus am dano. Ond yr oedd yn dlawd, yn dlawd, ac felly nid oedd ganddo ond canlyn ymlaen efo'i orchwyl dwl a diflas a digalon. "A llawer," glywch chi, "a llawer a'i ceryddasant ef i geisio ganddo dewi "—wedi llwyr flino ar ei swn yn llefain, nes oeddynt wedi byddaru arno, a rhai ohonynt yn dechrau colli eu tymer, a theimlo bod ei lefau torcalonnus yn rhyw ddiscord poenus iawn yn gymysg à sain llawenydd a gorfoledd y dyrfa ar y ffordd i'r ŵyl. Ac y maent yn ceisio ganddo dewi a'i ddrwg swn yn y fan honno, a phan yn methu a llwyddo, yn ei ddwrdio yn iawn—"a'i ceryddasant ef i dewi." 'Does dim son iddyn' nhw roi elusen iddo i beri iddo dewi, ond ei ddwrdio, rhoddi enwau cas arno, hwyrach, a bygwth ei gymryd o'r fan honno, a'i roddi dan warchodaeth am ei fod yn niwsans hollol trwy glebar fel hyn ar ol pobl. Creadur tlawd, hawdd mynd yn hyf arno oedd hwn, ac yr oedd llawer wedi taro ati i wneud hynny—" a llawer a'i ceryddasant ef," ond 'doedd dim iws treio muslo hwn y ffordd yna.

Yna disgrifia'r wawr yn torri ar gyflwr y dyn:

"Cymer galon, cyfod, y mae efe yn dy alw di." Dyma'r rhai oedd yn ei ddwrdio yn newid eu tiwn, a dyma nhw'n rhedeg i maflyd yn ei law i'w dywys, ond 'doedd dim eisiau. Yr oedd ei glust sharp o