Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sectio cymeriadau a digwyddiadau hanes y Beibl. Geilw broffwydi o'u beddau, a digwyddiadau o dir angof. Fe'u geilw hwy o un i un i wasanaeth y gwirionedd, a'r cwbl yn ein hargyhoeddi bod dynion ymhob oes ac amgylchiadau yn debyg i'w gilydd yn eu peryglon, eu hofnau, a'u brwydrau, a bod profiadau dyfnaf bywyd a moesoldeb yn aros yr un.

Fel y cyfeiriwyd, dawn ymddiddanol sydd ganddo-a rhaid i ŵr nad yw'n dibynnu ar yr hyn a elwir yn "hwyl," neu ruthr areithyddol, wrth ryw gyfaredd o ddeunydd arall, mewn gwreiddioldeb, dychymyg, a phertrwydd, ac y mae'r rheini yma. Ceidw bawb ar ddihun, ac nid oes neb yn blino. Gall bregethu am awr a hanner heb fod yn faith.[1]

Deil y gynulleidfa yn hollol yn ei law. Daw'r trawiad doniol yn ei dro; weithiau, mewn defnydd o air neu frawddeg a fo'n newydd a chartrefol; dro arall, mewn disgrifiad byw neu syniad pert. Yn y pethau hyn fe gafodd David Williams lawer o wenau pobl.

Er hynny i gyd, yr oedd yn bregethwr difrif, a chanddo'i ergydion i'w bwrw'n annisgwyliadwy nes sobri pawb. Ni ddyry lonydd i gydwybod gysglyd. Gwasga ar y gynulleidfa fel un am roddi sgwd" i ddynion yn nes i dir y bywyd. Pan ddeffry'r dyfnder yn ei enaid dan gynhyrfiad disymwth, dyna floedd-bloedd megis o orfod. Fel y dywed Anthropos, "fe elwir y llais o'r ogof dan-ddaearol. Y mae'n cael ei godi by force i'r uchelderau, ac nid yw'n ymddangos fel yn hoffi'r driniaeth. Y mae'r swn am eiliad fel ffrwydriad pylor, ac yna disgyn yn ôl i fysg y tan-ddaearolion bethau."

  1. Y Parch. W. M. Jones.