Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

weddi ddirgel; ond dyma un o'r blaenoriaid yn hysbysu bod John Williams wedi colli ei fam. Deffry hyn ryw deimlad dwys iawn yn y gweinidog. Dywed yn dyner am faint y golled, gan orffen gyda'r geiriau: "Do, machgen i, chwi gollsoch, wrth golli'ch mam, fwy o gariad a thynerwch yn un lwmp efo'i gilydd nag a welwch chi yn y byd eto," a'r dagrau yn powlio o'i lygaid byw a glân.

Dywed ei feddwl yn bur rhydd weithiau. Dyma chwaer ffyddlon newydd briodi. Dymuna'n dda iddi yn ei bywyd priodasol, a gofynna a ydyw'r gŵr yn aelod. "Nac ydi," medd hithau, "Sais ydi o." "Neno'r diar," meddai yntau, "i beth yr ydach. chi'n priodi'r hen Saeson yma deudwch, i ddifetha'ch crefydd."

Yn ymyl yn y fan yna y mae Laura Jones. Hen ferch ydyw hi a gynhelir gan mwyaf gan y gweinidog ac aelodau eraill yr eglwys. Gwyr pawb na ddaw'r dorth byth ar ei bwrdd hi heb y Beibl hefyd. Ychydig iawn a wyr y dref am Laura Jones, yn ei bywyd bach a'i hannedd syml, oddieithr aelodau'r eglwys. Daw hi a gair heb ei chymell. "A'r Iesu a safodd." "A'r Iesu a safodd," meddai. "Meddwl yr oeddwn i heddiw, Mr. Williams, am y gair hwnnw yn hanes y cardotyn—the poor beggar by the road side, wyddoch chi. Yr Iesu a safodd, ac a orchymynodd ei ddwyn ef ato."" "Ia, da iawn," ebr y gweinidog. "Wel, beth oeddach chi'n feddwl o ryw air fel yna, Laura Jones?" "Synnu 'roeddwn i fod O yn sefyll, a dyna oeddwn i'n feddwl pa member of Parliament fuasai'n sefyll i sbio ar un fel fi,, greadures dlawd."

"Diar mi, Diar mi, glywch chi, gyfeillion, y mae'r chwaer yma'n rhyfeddu wrth feddwl fod yma Un yn