Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sefyll pan mae'r byd tyrfus yma yn mynd heibio, yn sefyll i alw rhai nad ydi'r dref yma ddim yn i gweld nhw. Mor briodol inni i gyd fyddai'r pennill hwnnw—

Rhyfeddu'r wyf, a mawr ryfeddod yw,
Fy ngharu erioed y gwaela' o ddynolryw;
Cael yn dy dŷ, o fewn ei furiau le,
Ac enw gwell nag enwir is y ne."

Rhoddir gan un a fagwyd yn eglwys Crosshall Street, ac a ddechreuodd bregethu dan gysgod David Williams, sef, y Parch. John Owen, M.A., ddisgrifiad ohono fel un dihafal yn y gwaith hwn: "Medrai gadw seiat mewn modd na fedr ond ychydig." A hyn cytuna'r gair o bobman.