Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Hughes, Kinmel, tad Arglwydd Dinorben, yr hwn oedd yn byw gerllaw-dau o noddwyr yr ysgol; a chafodd y crefyddwr ieuanc brawf yn dra buan mai nid boddhaol ganddynt hwy ac eraill a fuasent hyd yma yn gefnogwyr iddo, oedd y cam a gymerasai. Ac i ddyfnhau ei gamwedd, ymhen dwy flynedd neu ychydig yn rhagor, beiddiodd yr ysgolfeistr ddechreu pregethu. Y canlyniad o hyn oedd i'r ddau foneddwr a enwyd, ac amryw eraill oeddynt yn gyfeillion iddo hyd yma gilio oddiwrtho, a deallodd yntau mai gwell fyddai iddo symud. Ond i ba le? Nid oedd Abergele yn fan deniadol iawn i ysgolfeistr Ymneillduol, yn enwedig i un oedd hefyd yn rhyfygu pregethu heb urddau esgobol. Yn y flwyddyn 1794, bum' mlynedd cyn hyn, yr oedd gwr o'r enw y Parch. Richard Jackson, M.A.. wedi ei benodi yn ficer y plwyf. Ac yr oedd ef, yn enwedig yn nechreu ei drigias yma, yn Eglwyswr cul ac erlidgar. Prawf o hyny yw y gwrthsafiad a wnaeth unwaith, yn dra buan wedi dod yma i fyw, i'r Parch. Rowland Hill, M.A., Llundain, i bregethu yn y man y saif y Town Hall arno yn awr—Odyn Frág y pryd hyny. Ond yn Mr. Hill cafodd ei drech ymhob ystyr. Pan y gorchymynai y Ficer iddo dewi, Pwy ydych chwi?" gofynai y gwr dieithr.

"Ficer y plwyf," atebai yntau. "Felly yn wir," meddai y gwr o Lundain. "Rhyfedd iawn"; a chan droi at y gynulleidfa, ychwanegai, "A welwch chwi, fy nghyfeillion, yr wyf fi yma yn ceisio dweyd gair am a thros yr Arglwydd Iesu Grist, a dyma wr sydd yn proffesu bod yn was i Grist yn fy ngorchymyn i dewi." Mewn cywilydd, ac hwyrach gyda ias o euogrwydd cydwybod, troes y Ficer ymaith, ac yn ei ol i'w letty i Dyddyn Morgan. Ceisiodd hefyd aflonyddu ar odfa a gynhaliai y Wesleyaid ar yr heol yn ddiweddarach, tua 1802 neu 1803. Ond er y medrai ambell wr ei gywilyddio, nid oedd ef, a'r rhai a gydymdeimlent ag ef, yn gyfryw y gallai Mr. Lloyd ddisgwyl nemawr ffafrau ar eu llaw. Eto