Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr oedd y dref yn safle ganolog a manteisiol i gael ysgolheigion ac yr oedd yma gapel, a chroesaw iddo ef wneyd defnydd o hono. Yma y daeth, ac yma y cartrefodd wedi hyny yn fawr ei barch a'i ddefnyddioldeb am naw mlynedd a deugain gweddill ei oes.

Mewn rhan yn ddiau oherwydd yr achles a'r ymgeledd a roddwyd i'r achos trwy weinidogaeth a dylanwad personol Mr. Lloyd, aeth y capel cyntaf yn fuan yn rhy fychan. Helaethwyd ef yn 1808, a thrachefn yn 1833, ac y mae yn aros hyd yn awr fel y gwnaed ef y pryd hyny; a chynhelir Ysgol Sabbothol a moddion nosweithiau canol yr wythnos ynddo. Daeth yr eglwys yn ddigon cref yn 1836 (Meh. 2, 3) i gynal cyfarfod a elwid ar y pryd yn Gymdeithasfa. Nid y Gymdeithasfa Chwarterol reolaidd chwaith, canys yn y Bala ymhen y pymthegnos y cynhelid hono. Ond "Cymdeithasfa" ydyw yr enw a roddir arni yn yr adroddiad a anfonodd Mr. Emrys Evans, a adnabyddid yn ddiweddarach fel y Parch. Emrys Evans, i'r Drysorfa (1836 t.d. 284). Pregethid, oddieithr am 6 bore yr ail ddydd, yn yr awyr agored yn Nghae bach y Gwindy—y cae y mae New Street yn awr yn myned trwyddo. Y gweinidogion oeddynt William Brown. Mynwy; Hugh Edwards, Llandderfel: Rees Jones, Lledrod; Isaac Williams, Llanbrynmair; William Roberts, Amlwch: Cadwaladr Owen, Dolyddelen; Richard Jones, Bala; William Morris, Carmel (Rhuddlan yn ddiweddarach), a Roger Edwards, Wyddgrug. Ac ymhen pedair blynedd a haner, sef Ion. 6, 7, 8. 1841, cawn fod Cymdeithasfa Chwarterol yn cael ei chynal yma; ac un arall drachefn, Rhagfyr 22 a'r 23, 1842, ymhen llai na dwy flynedd, a sonir llawer am hono hyd heddyw gan y rhai sydd yn fyw o'r sawl oedd ynddi, oherwydd yr odfa ryfedd a gafodd y Parch. Hugh Jones, Llanerchymedd, 6 o'r gloch fore y diwrnod olaf. Er fod y Parch. Henry Rees, ac eraill o oreuon pregethwyr y Cyfundeb yn y Gym-