Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

deithasfa, am bregeth y Parch. Hugh Jones yn benaf, os nad yn unig y sonid ar ol i'r cyfarfodydd fyned heibio. O'r adeg hono ymlaen, cymerodd y frawdoliaeth yn Abergele y cyfrifoldeb yn eu tro o gynal y Gymdeithasfa pa bryd bynag y rhoddwyd iddynt y fraint o'i derbyn.

PENNOD III

O 1848 hyd 1908

YN mis Gorffenaf, 1848, cyfarfu yr eglwys Fethodistaidd yn y dref hon â'r golled fwyaf a gawsai er adeg ei sefydliad. Ar y 15fed o'r mis hwnw, bu farw y Parch. Thomas Lloyd. Nid oedd y brodyr oeddynt hyd yma wedi bod yn cyd-ofalu âg ef am yr achos, wedi bod erioed o'r blaen ond yn achlysurol, heb ei bresenoldeb a'i arweiniad ef, ac weithiau ddau neu dri o weinidogion eraill heblaw efe, i'w cynorthwyo ymhob cynulliad. Ond wele hwynt yn awr heb neb o honynt. Eithr gofalodd yr Hwn biau y gwaith am danynt. Yn ffodus iddynt hwy, ymhen tair blynedd, sef yn 1851, darfu i Mr. David Roberts, Liverpool, a'i fab, Mr. John Roberts, wedi hyny yr Aelod Seneddol dros Fwrdeisdrefi Fflint, brynu palasdy Tanyrallt, yn y gymydogaeth, y lle ynghyd a Bryngwenallt yn ddiweddarach, y buont yn byw wedi hyny y rhan fwyaf o bob blwyddyn i ddiwedd eu hoes, a'r lleoedd y mae eu hiliogaeth yn parhau i gartrefu. Ac y y mae y nawdd a deimlai frawdoliaeth yn nghymdeithas a chynorthwy y Robertses o Danyrallt a Bryngwenallt," yn cael ei brofi yn y camrau a gymerasant yn y blynyddau dilynol. Yn fuan, sef yn 1858, cawn hwy yn paratoi ar gyfer cynydd yr iaith Seisoneg yn y lle, am yr