Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yna galwodd y llywydd ar y Parch. William Roberts, gweinidog y lle, i anerch y cyfarfod, yr hwn a ddywedodd:—Nid oes genyf ryw lawer i'w ddyweyd ar y mater hwn; ond y mae yn dda iawn genyf weled pawb yn cymeryd dyddordeb yn y symudiad presenol. Nid oes un ddadl nad oes yma angen am gapel newydd. Mae y capel hwn, nid yn unig yn hen, ond yn rhy fychan i gynwys y rhai a garent ddyfod iddo i wrandaw yr efengyl; ac felly, y mae yn lled. anhawdd i ni gyflawni yr Ysgrythyr hono, "Cymhellwch hwynt i ddyfod i mewn;" oblegid y mae y lle eisoes yn llawn. Yr wyf yn meddwl na ddylem fod gyda ein haddoldy ar ol ein cymydogion. Y mae y capel hwn wedi ei wneyd er's dros ddeng mlynedd ar hugain, ac wrth ei gymharu âg addoldai ereill, yn enwedig un, mae ymhell ar ol. Darfu i un boneddwr o Gaernarfon, wrth basio, wedi sylwi ar ymddangosiad anolygus y capel, ddyweyd, Nid oes yma neb yn teimlo rhyw lawer dros grefydd." Ond yr wyf yn teimlo y dylem symud ymaith bob achlysur i neb allu dyweyd fel hyn am danom. Yr wyf yn hyderu y gwnawn gapel fydd yn anrhydedd i grefydd, ac yn anrhydedd i'r enwad yr ydym yn perthyn iddo. Mae Abergele wedi gwneyd llawer i gynorthwyo pobl ereill i gael capelydd heirdd, ac wedi ymfoddloni yn rhy hir ar un gwael eu hunain. Carwn yn fawr i'n haelioni fod mor helaeth fel y bydd y capel newydd yn ddiddyled ar ddydd. ei agoriad. Ewyllysiwn i ni fod ar y blaen mewn haelioni i roddi esiampl i holl Fethodistiaid Cymru—i ddysgu pawb o honynt i weithio eu hunain, ac i beidio dibynu ar ereill. Yr wyf yn gobeithio y dengys y canlyniad o'r cyfarfod hwn nad ydyw eglwys Abergele ar ol i un eglwys yn Nghymru mewn haelioni. Clywir rhai yn haeru—ac nid heb beth achos—mai lled isel ydyw wedi bod yn y gras hwn, ond yr ydym yma heno yn myned i wneyd peth a rydd daw bythol ar bob siarad o'r natur yma yn y sir. Pobl hael oedd pobl o galon fawr. Yr oedd rhyw gardotyn yn arfer gwneyd llun calonau y bobl a fyddent yn rhoddi cardod iddo; a byddai yn arfer gwneyd maint eu calonau yn ol maint eu rhoddion iddo. Os mawr fyddai y rhodd, gwnai lun y galon yn fawr; ac os bychan, bychan fyddai y llun. Yr wyf yn hyderu fod gan bob un sydd yma galon fawr—calon ddigon mawr i beri iddynt gyfrauu yn ol eu gallu at yr achos hwn.

Yna anerchwyd y cyfarfod yn yr iaith Saesneg, gan John Roberts, Ysw., Tan'rallt, mab D. Roberts, Ysw., o'r un lle, a gwnaeth y sylwadau canlynol:—Yr wyf yn codi i'ch llongyfarch ar y dyddordeb a gymerir yn y symudiad presenol. Nid symudiad afreidiol ydyw. Mae yn amlwg nad oes digon o le yn y capel fel y gallwn wahodd ein cymydogion i gyfranogi o'r un breintiau crefyddol a ni; ac os oedd yn rhy fychan, ein dyledswydd ydyw ei wneyd yn fwy. Dymunwn yn fawr anog y bobl ieuainc sydd yma,