Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mae y llafur a'r gost a gymerant i wneyd yr eglwysydd yn adeiladau mor ardderchog, yn dangos eu bod yn meddu llawer iawn o ryw fath o deimlad crefyddol, ac o syniadau cywir am yr urddas priodol i le o addoliad. Yn ngwyneb llwyddiant presenol pob dosbarth yn y wlad, yr wyf yn teimlo y dylem wneyd mwy gydag achos crefydd. Mae sefyllfa y Methodistiaid —gweithwyr y wlad yn gystal a phob dosbarth arall—yn llawer uwch yn awr nag oedd flynyddau yn ol; a dylai fod cynydd cyfatebol mewn haelioni yn ein mysg. Ni wna gweddio heb haelioni mo'r tro; ond y mae yn rhaid i chwi gyfranu yn gystal a gweddio. Yr wyf yn teimlo yn hyfryd oherwydd yr hyn sydd yn cychwyn yn Abergele; ac yr wyf yn hyderu y bydd i bawb gyfranu at y capel newydd. Nid ydyw aur ac arian o un gwerth ynddynt eu hunain; ond y mae y teimlad iawn sydd yn peri i bobl eu cyfranu yn anhraethol werthfawr. Goddefwch i mi ofyn i chwi, A fuoch chwi erioed yn gweddio am galon hael? Yr wyf yn cofio i mi unwaith ofyn i hen wr, "A fuoch chwi yn gweddio am i'r Arglwydd eich cyfarwyddo pa faint i'w roddi?"

"Naddo," atebai yntau, nid wyf yn meddwl fod eisieu gweddio am beth felly: gwn pa faint i'w roddi, a pha faint i'w gadw." Yr wyf yn gobeithio y bydd i bob un gyfranu at y capel newydd oddiar deimlad o'i ddyledswydd, yn ofn yr Arglwydd, a chydag amcan cywir i ogoneddu enw yr Arglwydd.

Yna anerchwyd y gynulleidfa gan y Parch. H. Rees, Liverpool, yr hwn a ddywedodd:—Buasai yn dda genyf pe gallaswn eich cyfarch mor gryno a chystal i'r pwrpas a'r cyfeillion sydd wedi eich cyfarch; ond yr wyf yn ofni fy mod yn rhy anfedrus i wneuthur, ac yn rhy hen i ddysgu. Yr wyf yn cofio capel yn Abergele cyn hwn, ac y mae yn arwyddo yn bresenol y caf fyw i weled capel newydd yma. Nid oes un lle ya Sir Ddinbych y carwn ei weled yn codi ei hun yn fwy nag Abergele. Bum yn Abergele yn yr ysgol gyda Mr. Lloyd, y dyn hoffaf a welais erioed. Yn nghymydogaeth Abergele y dechreuais bregethu 45 mlynedd yn ol. Mae yn hyfryd genyf weled Abergele yn ymysgwyd i weithio. Nid oes un amheuaeth nad oes yma nerth, a'r oll sydd yn eisieu ydyw iddi roddi ei nerth ar waith. Y mae son am danoch yn dechreu gweithio wedi cyrhaedd i Gonwy, ac ni synwn na bydd wedi cyrhaedd i Fangor a Chaergybi cyn nos yfory. Yr wyf wedi gweled Abergele lawer gwaith o'r blaen, ond ni welais mo honi erioed yn fwy bywiog nag y mae yn awr; ac yr wyf yn gobeithio mai nid bywiogrwydd y wenol ydyw. Mae y creaduriaid hyny yn fywiog, ond nid ydyw eu bywiogrwydd yn cynyrchu dim—yn dwyn un ffrwyth; ond yr wyf yn hyderu y dwg y bywiogrwydd sydd yma ffrwyth helaeth. Heb ddwyn frwyth ni bydd y te parti a phob peth ond ofer. Mi a ddymunwn fwy fwy ar achlysur fel hyn ochelyd bob dull o siarad ag sydd o duedd i hudo dyn-