Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i amdoi corff yr Iesu. Dygodd Nicodemus hefyd tua chan' pwys o fyrr ac alöes yn nghymysg i'w berarogli ef. Yr oedd y disgyblion ar ddydd y Pentecost yn colli pob teimlad o'u meddiant yn eu meddianau gan fawredd eu cariad at Grist. Os awn i lawr i Macedonia, yr ydym yn cael ddarfod, mewn mawr brofiad cystudd, i helaethrwydd eu haelioni hwy, a'u dwfn dlodi, ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy." Amser drwg i wneyd casgliad oedd y pryd hwnw. Yr oeddynt mewn dwfn dlodi," "cystudd," ac erledigaeth; ond yr oeddynt yn profi y fath lawenydd crefyddol fel y chwyddodd eu haelioni yn llawer mwy nag yr oedd Paul yn ei ddisgwyl. Fe elwir arnom i anrhydeddu yr Arglwydd a'n cyfoeth; a chyn y gallwn wneyd hyny, rhaid i ni roddi i'r Arglwydd o'n cyfoeth. Nid ydyw yn anrhydedd yn y byd i'r Arglwydd ein bod yn casglu cyfoeth, ac yn cadw cyfoeth, ond ei roddi at ddwyn achos crefydd ymlaen yn y byd sydd yn anrhydedd i'r Arglwydd. Nid ydyw gwastraffu cyfoeth arnom ein hunain yn un anrhydedd i'r Arglwydd; ond ei gyfranu yn ol ein gallu sydd yn rhyngu ei fodd ef. Y mae yn bosibl i chwi ddirmygu yr Arglwydd, nid yn unig wrth beidio rhoddi, ond hefyd wrth roddi yn anheilwng—"Onid melldigedig yw'r twyllodrus, yr hwn y mae yn ei ddeadell wryw, ac a adduna ac a abertha un llygredig i'r Arglwydd; canys Brenin Mawr ydwyf fi, medd Arglwydd y lluoedd, a'm henw sydd ofnadwy ymhlith y cenhedloedd." Y rheol ddwyfol i roddi at achos crefydd ydyw, "megis y llwyddodd Duw ni"-hyny yw, rhoddi yn ol ein gallu, ac ni bydd llai na hyny yn gymeradwy gan yr Arglwydd. Ni wyr yr eglwys ei nerth heb ei roddi ar waith. Yr wyf yn gobeithio y bydd i eglwys a chynulleidfa Abergele wneyd ymdrech egniol y waith hon. Yr oedd son am haelioni y Cymry ymhlith y Saeson. Cynygiodd un boneddwr yn ei dystiolaeth o flaen y Pwyllgor Seneddol ar Addysg eu bod i adael i'r Cymry adeiladu eu hysgoldai eu hunain heb gymhorth y llywodraeth. Mewn atebiad i'r awgrymiad, gofynwyd iddo, "A ydych chwi yn meddwl yr aiff achos crefydd ymlaen felly yn Nghymru?" I'r hyn yr atebodd y boneddwr Y mae yn sicr o fyned ymlaen felly; y mae yn syndod beth y maent yn ei wneyd yn eu capelydd." Mewn un o gyfarfodydd y Social Science yn Manchester, dywedodd un boneddwr nas gellid dwyn addysg ymalaen felly yn Lloegr, ond ei fod yn credu y gellid yn Nghymru. Y mae sylw y Saeson fel hyn yn cael ei alw at haelioni y genedl fechan a llwydaidd sydd yn preswylio rhwng bryniau Cymru. Yr wyf yn gobeithio y bydd i bobl Abergele wneyd gorchest y waith hon, ac ymdrechu i ymgodi i safle uwch mewn haelioni nag unrhyw eglwys na chynulleidfa yn Sir Ddinbych. Diweddodd Mr. Rees yn ei araeth ragorol yn nghanol arwyddion o gymeradwyaeth frwdfrydig y gynulleidfa.