Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

symudiad—fod ganddo £6 2s. 10½c, mewn llaw, wedi talu y ddyled a threuliau "gwyl y dathliad" hefyd. Ar derfyn y cyfarfod hwn cyfarchwyd ni gan yr hybarch Clwydfardd gyda'r englyn canlynol:—

Wele wyl anwyl inni—bywiol iawn
Iwbili i'n lloni;
Gorwych oll yw'ch cysegr chwi—
Di—ddyled dy addoli.

Yn 1887, hefyd, adeiladodd Mr. J. Herbert Roberts ysgoldy newydd a thy ynglyn â'r hen gapel ar ei draul ei hun, yr hwn a gostiodd iddo tua £400.

Ond daeth angenrhaid arnom yn fuan i fyned i ddyled drachefn. O herwydd fod y fynwent yn gorlenwi bu raid i ni yn 1888 brynu tir i'w helaethu, yr hwn a gostiodd £100; ac yn 1901—1903 gwariwyd tua £1600 am lanhau ac adgyweirio y capel, a dodi organ ynddo. Yn nechreu 1906 ymgymerasom â £50 O ddyled capel newydd Llanddulas. Ond ar gyfer y treuliau yna gadawodd Mrs. Williams, gweddw y diweddar Mr. Hugh Williams, Sea View, yr hon a fu farw Tachwedd 27, 1901, £400 yn ei hewyllys. Rhoddodd Mr. W. Ellis, Ty mawr, £100 at dalu am yr organ. A gwnaed casgliad cyffredinol yn 1903, nes dwyn y ddyled i lawr i £400.

A thra yn son am roddion, anheilwng fyddai ynom anghofio y rhestr ganlynol o gymwynasau a dderbyniwyd o bryd i bryd yn ystod y deugain mlynedd diweddaf:—

Gan y ddiweddar Mrs. Roberts, Bryngwenallt, y cafwyd yr harmonium a ddefnyddiwyd am flynyddau lawer cyn adeiladu yr organ, ac a ddefnyddir eto, yn achlysurol, yn y capel newydd.

Gan Mrs. Matthews—Miss Davies y pryd hwnw—Pant Idda, ar agoriad y capel, y cafwyd y flaggon a ddefnyddir yn ngwasanaeth y Cymundeb. A chan Mrs. Robert Ellis—