Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dechreuodd bregethu. Symudodd, a'i ysgol gydag ef, i Abergele yn 1799, ac yma ar ol hyny y cartrefodd. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn y Bala, Mehefin 15, 1819. Oherwydd ei ddyledswyddau ynglyn a'r ysgol ni theithiodd ond ychydig i bregethu ar hyd a lled y dywysogaeth; ac am y 25 mlynedd diweddaf ei oes, ni theithiodd ddim o gwbl. Nid ei deithiau ac nid ei dalentau a'i gwnaeth ef yn wr mor gyhoeddus, ond ei lafur dyfal, maith a llwyddianus fel ysgolfeistr, a'i gymeriad crefyddol, diarebol lednais a phur. Mae yn debyg na welodd Abergele neb erioed o'i mewn yn llai ei frychau nag ef, na neb a fu o fwy o wasanaeth i'r achos crefyddol. Wrth weddio drosto yn ystod ei waeledd diweddaf, adroddir i un o'r brodyr—yr hynod William Mark—ddweyd yn symledd ei galon, "O! Arglwydd, cofia ein brawd, dy was, yn ei gystudd, a maddeu iddo ei bechodau, os oes ganddo bechodau hefyd. Ni wyddom ni am neb a chan lleied o honynt ag ef. Pa fodd bynag ni wn i ddim." Ac ysgrifenai y Parch. Henry Rees am dano yn y Traethodydd (1853. 231—260), "Mi a'i hanrhydeddwn ef fel tad: mi a'i hoffwn ef fel yr hoffir plentyn bychan diddichell; a thra y glynai fy enaid wrtho fel brawd anwyl, eto yr oeddwn yn teimlo rhyw fodd fel pe buasai honi brawdoliaeth a'r fath wr yn honi gormod o gydraddoldeb." Dioddefodd lawer oddiwrth amrywiol anhwylderau, ond yr hyn a derfynodd ei oes oedd cancer yn y wyneb. Daeth ei fywyd defnyddiol i ben Gorphenaf 15. 1848, yn y Bryndedwydd, yn y Street Uchaf, ac efe yn 72 mlwydd oed. Claddwyd ef yn y fynwent blwyfol, mewn hiraeth mawr a chyffredinol am dano, a gosodwyd cofadail hardd ar ei fedd.

HENRY REES. Wedi dechreu pregethu yn Ebrill. 1819, daeth yma i fod dan addysg y Parch. Thomas Lloyd yn Gorphenaf yr un flwyddyn, a bu yma hyd Mehefin, 1821.