Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yna aeth i'r Amwythig i ddysgu rhwymo llyfrau; ond fel y dywedai ei frawd, y Parch. William Rees am dano, "Y llyfrau yn hytrach a'u rhwymodd ef." Gwelodd y brodyr perthynol i'r eglwys fechan oedd yno ei werth, a gwahoddasant ef i roddi heibio ei alwedigaeth, a dyfod yn weinidog iddynt hwy, yr hyn a wnaeth nes y symudodd i Liverpool yn 1837. Ordeiniwyd ef yn 1827. Bu farw yn y Benarth, ger Conwy, Chwefror 18, 1869, yn 72 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llandysilio, Mon. Efe yn ddiau, a chymeryd ei holl ragoriaethau i ystyriaeth, oedd y pregethwr efengyl perffeithiaf a welodd Cymru erioed.

EMRYS EVANS.—Ganwyd a magwyd ef yn Mronyberllan, gerllaw y dref hon. Dechreuodd bregethu yn 1837, pan yn 26ain oed, ac yr oedd wedi ei ddewis yn flaenor er's rhyw gymaint cyn hyny. Symudodd ymhen nifer o flynyddoedd o Fronyberllan i'r Llwyni, ac oddiyno i Cotton Hall, ger Dinbych. Bu am yspaid wedi dechreu pregethu dan addysg Dr. Edwards a Dr. Charles yn Athrofa y Bala, ac — efe oedd un o'r myfyrwyr cyntaf; a dywedai Dr. Edwards am dano ddydd ei gladdedigaeth na bu neb yn y sefydliad hwnw a enillodd iddo ei hun fwy o barch. Ordeiniwyd ef yn 1840. Bu farw, Mai 10, 1882, yn 71 mlwydd oed, wedi bod yn un o weinidogion mwyaf cymeradwy Sir Ddinbych am 45 mlynedd. Efe oedd Llywydd Cymdeithasfa y Gogledd am 1878.

JOHN FOULKES.—Ganwyd ef yn Henllan yn 1803. Dechreuodd bregethu pan tua 18 oed. Bu yn byw yn y Bontuchel a'r Bettws cyn symud i Abergele. Daeth yma yn 1837. Ordeiniwyd ef yn 1838. Bu yn cadw masnach dilledydd (draper) am ysbaid; ac ar ol rhoi y fasnach i fyny bu yn cartrefu yn Tanygoppa, gerllaw y dref, hyd 1847, pryd y symudodd i Liverpool. Ymadawodd oddiyno drachefn i Ruthin yn 1862, lle y bu farw, Ebrill 20, 1881,