Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

1828. Yr oedd natur a gras wedi cytuno i'w addurno a chymhwysderau eithriadol at waith y weinidogaeth. Llanwodd le mawr, a hyny am oes faith, yn ei Gyfarfod Misol ei hun; ac, o ran cymhwysderau, gallasai lanw lleoedd anrhydeddusaf y Gymdeithasfa. Ond ni fynai. Er ei waethaf y gosodwyd ef yn Gadeirydd y Gymdeithasfa am y blynyddoedd 1859—60. Bu farw Chwefror 1, 1860, yn 74 oed, a chladdwyd ef yn mynwent capel y Methodistiaid yn Llanrwst.

ROBERT ROBERTS.—Daeth yma yn 1864 trwy briodi merch y Parch. H. Hughes, Brynhyfryd. Ganwyd ef yn Prion. Dechreuodd bregethu yn 1844. Wedi bod am rai blynyddau yn y Bala, cychwynodd Ysgol Ramadegol yn Rhyl. Ordeiniwyd ef yn 1853. Yn 1855 derbyniodd wahoddiad i fugeilio eglwys Seion, Llanrwst, lle y bu hyd 1862 yn ddedwydd a defnyddiol; ond oherwydd stad ei iechyd rhoddodd ei fugeiliaeth yno i fyny, a symudodd i ddechreu i'w hen gartref yn Prion, yna i Gonwy, o'r hwn le y daeth i'r dref hon. Yn 1875 derbyniodd alwad eglwys. Salem, Dolgellau, i ddyfod yn fugail iddi, lle y bu hyd ddiwedd ei oes. Bu farw yn dra disymwyth yn Aberystwyth, Medi 23, 1889, a chladdwyd ef yn mynwent Salem, Dolgellau. Ni charodd neb erioed ei enwad yn fwy nac y carai ef Fethodistiaeth; a gwnaeth ei ran i berffeithio ei holl drefniadau. Ysgrifenodd a chyhoeddodd gyfrol ar Elfenau Methodistiaeth. Bu am flynyddau yn Ysgrifenydd Athrofa y Bala; a pharotoi Hanes y Coleg yr oedd pan ddaeth y diwedd. Fel pregethwr yr ydoedd yn feddylgar a choeth, ac eto yn ymarferol; a derbyniodd bob swydd ac anrhydedd oedd gan ei Gyfundeb i'w roddi iddo.

NATHANIEL CYNHAFAL JONES, D.D.—Ganwyd ef yn Gellifor, Llangynhafal, yn 1832. Dechreuodd bregethu yn 1859. Ordeiniwyd yn 1866. Bu yn weinidog yn Adwy'rclawdd,