Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Penrhyndeudraeth, Llanidloes, ac Engedi, Colwyn Bay. Yr oedd ef, heblaw bod yn bregethwr rhagorol, yn llenor a bardd o gryn fri. Golygodd argraffiad newydd o weithiau Williams, Pantycelyn. Cyhoeddodd hefyd gyfrol o farddoniaeth ar Fywyd Iesu Grist," ac amryw lyfrynau llai. A bu yn olygydd y Drysorfa am bum' mlynedd. Yn Hydref, 1902, rhoddodd ei fugeiliaeth i fyny yn Ngholwyn Bay, a symudodd i gartrefu i Abergele, ac oddiyma drachefn i Flaenau Ffestiniog yn Mai, 1905, lle y bu farw y 14 o Ragfyr dilynol, a chladdwyd ef yn mynwent capel y Methodistiaid yn Abergele. Gwr anwyl iawn oedd efe. O ran nodwedd ei feddwl tebygai yn fawr i'w hoff Ddyffryn Clwyd, eang, ffrwythlawn a phrydferth. Yn 1889 anrhydeddodd Prifysgol Wooster, Ohio, ef a'r gradd o D.D.

ROBERT AMBROSE JONES.—Brodor oedd ef o Abergele. Ganwyd ef yn 1851. Dechreuodd bregethu yn 1868. Wedi bod dair neu bedair blynedd yn y Bala, dychwelodd adref i ddilyn ei efrydiau ac i bregethu ar y Sabbothau. Ei hoff waith oedd astudio ieithoedd. Gallai siarad y Ffrancaeg a'r Germanaeg gyda graddau o hwylusdod; a meddai gydnabyddiaeth helaeth â'r Ysbaenaeg a'r Italaeg. Darllenai lawer ar lenyddiaeth y Cyfandir. Yr oedd yn gymeriad hollol ar ei ben ei hun Ysgrifenai mewn orgraff, a phregethai mewn arddull gwahanol i bawb arall. Araf y cyfansoddai Cymerai drafferth fwy na mwy yn enwedig gyda'i bregethau. Ordeiniwyd ef yn 1883 Yn 1885 symudodd i Swyddfa Mr. Gee, Dinbych, lle y bu am ddwy flynedd. Wedi hyny bu yn weinidog yn y Tabernacl, Rhuthyn; Trefnant, a Rhydycilgwyn. Bu farw yn y lle olaf a enwyd Ionawr 7, 1906.

WILLIAM ROWLANDS.—Ganwyd ef yn nhy capel y Ty-mawr, Mon, yn y flwyddyn 1837. Dechreuodd bregethu yn Nowlais, Morganwg, tua'r flwyddyn 1860. Bu am ysbaid