Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bu yn weinidog am ddwy flynedd yn eglwys Hermon, Llandegai; ac o Ionawr, 1897, hyd Medi, 1904, yn eglwys Saesneg Princes Road, Upper Bangor. Oddiyno symudodd i Blasnewydd, Caerdydd.

EDWIN ROWLANDS.—Genedigol o'r dref hon. Dechreuodd bregethu yn 1893. Ordeiniwyd ef yn 1898 i fyned yn Genhadwr i Fryniau Lushai, India.

JOHN KNOWLES JONES.—Ganwyd ef yn Mangor. Dechreuodd bregethu yn 1887. Ordeiniwyd ef yn 1900. Daeth yma y waith gyntaf trwy briodi yn 1896. Bu yn cartrefu yn Rhyl o 1897 hyd 1906, ac yn fugail yn Warren Road am chwech mlynedd o'r cyfnod hwnw. Yn y flwyddyn olaf a enwyd daeth i gartrefu i Abergele drachefn.

JOHN HENRY DAVIES.—Brodor yw ef o'r Trallwm, Swydd. Drefaldwyn. Dechreuodd bregethu yn 1888. Ordeiniwyd yn 1897. Ei fugeiliaeth gyntaf oedd Ewloe Green a Northop Hall. Bu yno o 1895 hyd 1906, pryd y symudodd i gymeryd. gofal yr eglwys Saesneg yn Mhensarn.

PENNOD VI.

Blaenoriaid

JOHN HUGHES, PENYBRYN.—Gwr gwir grefyddol a ffyddlon. Yr oedd ei wraig yn ferch i'r William Jones, o'r Nant Fawr, y soniasom am dano droion. Plant iddynt hwy oedd Mr. Isaac Hughes, Penybryn; Mrs. Foulkes, Llechryd; Mrs. Davies, Roe Gau, Llanelwy; Mrs. Edward Lloyd, Abergele; Mrs. Symond, Hendre: Mrs. Owen, Bodrochwyn; a Mrs. Wynne, Ala Vowlia. Oll yn hysbys yn eu gofal am "ei