Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

JOHN LEWIS, DILLEDYDD.—Ei le genedigol ef oedd Llansantffraid Glan Conwy, ac yr oedd yn ŵyr o du ei dad i'r hybarch bregethwr Evan Lewis, Mochdre; a meddai yntau ei hun ddawn ymadrodd rhwydd a pharod, ynghyd â llawer o fedr i wneyd yn ddeheuig unrhyw orchwyl a ymddiriedid iddo. Bu farw Tachwedd 3, 1880, yn 55 mlwydd oed.

DAVID ROBERTS, Ysw., TANYRALLT.—Coffawyd eisoes am ei ddyfodiad ef yma yn 1851. Yr oedd ef wedi bod yn swyddog am flynyddau yn Bedford Street cyn dyfod yma, a dewiswyd ef yn ddioedi i'r un gwaith yma hefyd. Enillodd ef iddo ei hun radd dda, nid yn unig yn Liverpool ac Abergele, ond hefyd yn nghylchoedd uchaf y Cyfundeb. Bu farw Hydref 3, 1886, yn 80 mlwydd oed.

JOHN ROBERTS, Ysw. A.S.—mab i'r uchod. Gan ei fod fel ei dad yn flaenor yn Liverpool cyn ei ddyfodiad yma, dewiswyd yntau yr un modd ar ei ymsefydliad i ymgartrefu yn Mryngwenallt i fod yn flaenor yn Abergele. A bu hyd ei fedd yn gynorthwy gwerthfawr i'r achos. Cawn gyfeirio eto at ei haelioni ynglyn â'r achos Saesneg yn Mhensarn. Bu ef farw Chwefror 24, 1894, yn 58 mlwydd oed.

JOHN VAUGHAN, PENYBRYN.—Dewisasid ef yn flaenor yn Nghefn Berain pan yn wr tra ieuanc. Daeth yma trwy briodi merch Mr. Isaac Hughes, Penybryn, a dewiswyd ef yn swyddog yn 1877. Gwr nodedig o garuaidd oedd efe, "boneddigaidd, hawdd ei drin, llawn trugaredd a ffrwythau da." Bu farw yn dra disymwth Mawrth 21, 1900, yn 63 mlwydd oed.

THOMAS WILLIAMS, PENSARN.—Genedigol o Dywyn, ond buasai yn cartrefu am flynyddau yn Bury, swydd Lancaster, cyn dyfod yma, ac yno y dewisasid ef gyntaf yn flaenor. Dewiswyd ef i'r un swydd yma yn 1885. Llanwodd leoedd pwysig mewn byd ac eglwys, a gwnaeth hyny yn anrhyd-