Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eddus. Meddai ddynoliaeth gref, a chrefydd gref hefyd. Bu farw Chwefror 15, 1901, yn 63 mlwydd oed.

HENRY WILLIAMS.—Buasai yntau yn flaenor am flynyddau yn y Morfa, cyn symud i'r dref hon. Mab ydoedd ef i Mr. W. Williams, Plas llwyd, blaenor uchel iawn ei barch yn eglwysi Tywyn a'r Morfa am ysbaid maith. Fel swyddog elusenol y tlodion yr oedd ganddo yn fynych achos i arfer craffder a barn, yn gystal a thynerwch; ond ni chlywsom i wir dlawd erioed gael ond tynerwch ganddo ef. Mab tangnefedd oedd, ac aeth i dangnefedd Medi 15, 1901, yn 55 mlwydd oed. Dewisasid ef yn flaenor yma er 1885.

EDWARD ROBERTS.—Brodor oedd ef o'r gymydogaeth hon, ac oddieithr blwyddyn neu ddwy a dreuliodd yn dilyn ei alwedigaeth fel crydd yn Liverpool, yma y treuliodd ei holl fywyd. Dewiswyd ef yn flaenor tua 1870. Yr oedd efe yn wr o feddwl cryf a gafaelgar. Darllenasai lawer yn y rhan gyntaf o'i oes. A phe yr ymroddasai i hyny gallasai ragori ar lawer fel bardd. Pan yn llanc ieuanc cafodd adwyth yn ei glun, a'i gwnaeth yn gloff weddill ei ddyddiau. O herwydd hyny, a hwyrach diffyg awydd hefyd, anfynych y gwelwyd ef mewn Cyfarfod Misol er's blynyddau lawer. Ond gwir ofalai am yr achos yn ei gartref. Bu farw wedi ychydig ddyddiau o gystudd Ebrill 10, 1907, yn 82 mlwydd oed.

Bu dau frawd arall yn swyddogion defnyddiol iawn yn yr eglwys hon am rai blynyddau, sef Mri. Edward Lloyd, Fferyllydd (1885—1890), ac Isaac Jones, Tyddyn Morgan (1893 —1901). Symudodd Mr. E. Lloyd i Golwyn Bay yn 1890, ac yno y bu farw, yn 1907, er dirfawr golled i'r eglwys. Saesneg, lle y dewisasid ef yn flaenor. Yr oedd efe yn ŵyr o du ei fam i Mr. John Hughes, blaenor cyntaf eglwys Abergele. Symudodd Mr. I. Jones oddi yma i Dyserth yn 1901, lle y mae yn awr yn swyddog. Gelwir arno ef, yn