Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i gael un, ar wahan i eglwys y dref, cynhelir yno gyfarfod eglwysig bob yn ail wythnos. Prynwyd rhyddfeddiant y capel hwn yn 1906 gan y diweddar Mr. William Ellis, Ty— mawr, a throsglwyddwyd ef yn rhodd i'r Cyfundeb.

PENNOD VIII.

——————

AMRYWION.

(a) Personau y tu allan i'r Swyddogaeth sydd yn teilyngu coffa am danynt.

JOHN HUGHES, PLAS UCHAF.—Un ffaith gwerth ei chadw mewn cof am dano ef ydyw a ganlyn ynglyn âg adeiladaeth y capel cyntaf:—Wedi deall ryw nos Sabboth, naill ai yn y Ty Cwrdd yn y dref neu yn y Nant Fawr, y bwriedid dechreu ar y gwaith bore dranoeth, prysurodd adref, a gorchymynodd i'r llanc oedd ganddo yn gofalu am y wedd fyned i'w wely yn ddioed, gan ei hysbysu yr un pryd y byddai eisieu iddo godi yn mhen ychydig oriau. Mor fuan ag y tarawodd yr awrlais hanner nos galwyd arno drachefn, gan orchymyn iddo wneyd y ceffylau a dwy drol yn barod a chyfeirio tua'r gloddfa. Felly y gwnaed; a chafodd John Hughes a'i was yr anrhydedd o gludo y ddau lwyth cyntaf o ddefnyddiau tuag at adeiladu y capel cyntaf a godwyd yn Abergele. Ffaith arall yn ei hanes ef sydd yn hawlio cael ei chroniclo ydyw, mai efe oedd y gwr a aeth yr holl ffordd i Lanfechell, Mon, yn haf y flwyddyn 1802, i geisio gan y Parch. John Elias ddyfod i bregethu i Ruddlan, gyda'r amcan o ddarostwng yr arferiad oedd yno er cyn cof, i ymgynull ar y Sabbothau yn amser y cynhauaf i gyflogi