Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yno, gwnai ef i fyny gyfanswm eu gwerth yn gyflymach na'r clerk gyda'i bin a'i bapur. Hoff waith ganddo hefyd, oedd siarad am faint a symudiadau y ser a'r planedau. Bu farw yn ddisyfyd. Yr oedd yn ei iechyd arferol yn myned i orffwys, ac wedi myned i'r "orffwysfa sydd eto yn ol" er's oriau y cafwyd ef yn y bore. Cyfansoddwyd yr englyn canlynol yn feddargraph iddo gan y Parch. Wm. Ambrose. Portmadoc:—

"Un fu gryf yn ei grefydd—addolwr
Oedd William Mark beunydd:
Rhodiodd ef ar hyd ei ddydd
Yn llaw Duw drwy'i holl dywydd."

HENRY J. ROBERTS, MANCHESTER HOUSE.—Cyfeiriwyd yn barod at ei ofal ef am Ysgol Sabbothol y Pant am fwy nac ugain mlynedd. Mewn ffordd anghyhoedd ni wasanaethodd neb eu henwad yn ffyddlonach nag ef a'i hawddgar briod. O'r 663 o lwythi o ddefnyddiau a gludwyd yn rhad at y capel newydd gan weddoedd 28 o bersonau, yr eiddo ef a gludodd 313 o honynt. Ac ar un adeg edrychid ar ei dy ef yn lletty cyffredin" pregethwyr y dref a'r wlad. Ar nos Sadyrnau anfynych y byddai ei dy heb un neu ddau o bregethwyr yn aros ynddo; a degau o weithiau y rhoddodd ei anifail at wasanaeth "gwyr traed" a fyddent ar eu ffordd i un o'r teithiau cyfagos. Bu farw Ebrill 27. 1895, yn 81ain mlwydd oed.

——————

(b) Trefn y daith Sabbothol.

Ar ol adeiladu capelau Brynllwyni a Thowyn y drefn ar y cyntaf oedd—Towyn, Brynllwyni, ac Abergele. Wedi adeiladu capel Llanddulas yn 1845, a bod Abergele yn dymuno cael pregeth y boreu a'r hwyr, cysylltwyd y dref â Llanddulas—Abergele 10 a 6, a Llanddulas am 2. Hyn fu y drefn am o ddeutu naw mlynedd ar hugain. Ond yn