Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mhen nifer o flynyddoedd teimlid yn y lle olaf drachefn awydd am ragor o weinidogaeth; a thrwy gyd-ddealltwriaeth o'r ddeutu cymerent bregethwr iddynt eu hunain tuag unwaith yn y mis hyd 1874, pryd y cysylltwyd hwy â Llysfaen, oedd o'r blaen ynglyn a'r Bettws, ac yn cael un odfa oddi yno bob Sabboth. Y symudiad diweddaf oedd yr un a wnaed yn 1887, sef fod y pregethwr fyddo yn gweinidogaethu yn y dref i fyned i Bensarn (Cymraeg) yn y prydnawn.

(c) Arweinwyr y Gan.

Y cyntaf oedd THOMAS PRITCHARD. Genedigol oedd ef of Benmachno. Crydd wrth alwedigaeth. Bu am ychydig flynyddau yn Liverpool, ac yr oedd yn un o'r pedwar a ffurfient y Society Fethodistaidd Gymreig gyntaf yn y dref hono. Cyfarfu W. Lloyd ac Owen Owen, dau o'r tri eraill, ag ef mewn bwthyn gweithwyr yn chwarel St. James, sydd yn awr yn gladdfa (St. James' Cemetry). Aethai ef yno heb wybod dim am danynt hwy, ond i'r un diben a hwythau, sef cael unigedd i ddarllen ei Feibl ac i ganu emynau.

Yr ail oedd JOHN LLOYD. Cynorthwyid ef gan Robert Roberts y Nant." R. Roberts oedd y cerddor, a J. Lloyd y lleisiwr." Bu efe yn drysorydd yr eglwys am haner can' mlynedd; ac efe oedd y J. Lloyd a adawodd £150 at ddyled y capel.

Y trydydd, JONAH LLOYD, yr Ironmonger. Bu farw Meh. 5. 1865, yn 29 mlwydd oed.

Y pedwerydd, DAVID DAVIES, Bowden House. Bu farw Mai 19, 1887.

Y presenol,HUGHES LEWIS, Bridge House, er 1884, yr hwn a gynorthwyir gan Thomas Williams, Ivy Cottage; Thomas Jones, Rose Cottage; a W. P. Morris, New Street.